Economi Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:14, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Un mater sy'n parhau i gael ei godi gyda mi gan fusnesau yn Aberconwy yw'r prinder sgiliau. Mae hon yn broblem ledled Cymru, gyda 92 y cant o uwch arweinwyr busnes yn nodi anawsterau i gyflogi gweithwyr sydd â'r sgiliau gofynnol. Felly, i ysgogi twf sgiliau, rwyf wedi galw yn y gorffennol am greu athrofa dechnoleg yng ngogledd Cymru. Er bod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i sefydlu 12 athrofa dechnoleg ledled Lloegr, nododd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y canlynol wrth y North Wales Weekly News: mae capasiti yn yr ystâd addysg bellach bresennol i ddarparu dysgu rhagorol mewn pynciau fel peirianneg a'r maes digidol yn agos at gartrefi pobl yn y gogledd. Felly, o ystyried y gwrthwynebiad ymddangosiadol i greu athrofa, buaswn yn ddiolchgar pe gallech egluro lle mae'r 'capasiti' hwn y cyfeiriwyd ato a pha gamau rydych yn eu cymryd i adeiladu ar hynny. Diolch.