Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:28, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Cynllun Llywodraeth y DU yw'r cynllun hwnnw; nid yw'n gynllun y byddem wedi'i gynllunio pe baem wedi bod yn rheoli'r ffordd y mae'n gweithio, ond rydym yn cydnabod mai dyna'r cynllun sydd ar gael. O ganlyniad, rydym wedi rhoi nifer o gamau ar waith er mwyn cynorthwyo dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru i wneud cais i'r cynllun. Rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo tua £2 filiwn yn fwyaf diweddar mewn perthynas â chyllido gwasanaethau cynghori. Mae rhywfaint o hwnnw drwy sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth; mae rhywfaint ohono o natur lawer mwy technegol drwy gwmni cyfraith mewnfudo. Rydym wedi ariannu awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau eu hunain yn lleol; ac mae gennym strategaeth gyfathrebu, gan gynnwys strategaeth gyfathrebiadau digidol, i gynyddu'r niferoedd sy'n ymgeisio. Rydym yn manteisio ar bob cyfle, gan fy nghynnwys i, yr wythnos hon, gyda swyddogion y Swyddfa Gartref, i'w hargyhoeddi o'r angen i sicrhau bod cyfathrebiadau ar draws y DU yn gwneud popeth y gellir ei wneud i annog cymaint o bobl ag y bo modd i ymgeisio.