Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:29, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Gwn eich bod chi a minnau eisiau gweld cynifer â phosibl o ddinasyddion yr UE, sydd wedi dewis byw yng Nghymru, yn aros yma yng Nghymru. Ond credaf mai'r hyn sy'n peri pryder yw bod ffigurau a ryddhawyd gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn dangos, hyd at fis diwethaf, mai dim ond 71 y cant o ddinasyddion yr UE sy'n byw yma yng Nghymru sydd wedi gwneud cais i gynllun preswylio'n sefydlog yr UE mewn gwirionedd, ac mae hynny o'i gymharu â 93 y cant mewn ardaloedd eraill o'r DU. Felly, yn amlwg, mae gwahaniaeth sylweddol o ran nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun o Gymru, ac rwyf eisiau deall pam. A ydych wedi gwneud unrhyw waith dadansoddi fel Llywodraeth i weld pam y gallai pobl fod yn ei chael hi'n anos cael mynediad at y cynllun, neu pam fod llai o bobl yn manteisio ar y cynllun yma yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU?