Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:31, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Nodaf yr hyn a ddywedoch ynghylch gwelliannau diweddar yn y ffigurau hyn, ac o'r wybodaeth sydd gennyf, mae'n awgrymu ein bod, o fis Rhagfyr i fis Ionawr, wedi gweld cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl sy'n gwneud cais am y cynllun yma yng Nghymru. Er hynny, y cyfartaledd ledled y DU yw 93 y cant o ddinasyddion yn hytrach na’r 71 y cant yma yn y ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Nawr, rwy'n croesawu peth o'r gwaith a wnaed. Fe gyfeiriwch yn gywir at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi canolbwyntio ar gyfathrebiadau mewn dinasoedd, a bod angen ychwanegu at hynny yma oherwydd natur wahanol y boblogaeth a wasgarwyd ledled Cymru. Ond yn amlwg, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mai dim ond 71 y cant o bobl sydd wedi manteisio ar y cynllun hyd yn hyn.

A gaf fi ofyn pa gyfathrebiadau neu drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol ynghylch rhoi hwb penodol i'w rôl yn estyn allan at y cymunedau alltud yn eu hardaloedd, oherwydd, yn amlwg, mae ganddynt rôl allweddol, rwy'n credu, o ystyried eu cysylltiad â’r cymunedau hyn ar lawr gwlad? Ac o ystyried pa mor gyfyngedig yw adnoddau rhai awdurdodau lleol, a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i’w cynorthwyo?