Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, roedd y cyfarfod a gefais yn gynharach yr wythnos hon gydag ystod o randdeiliaid ledled Cymru, a swyddogion y Swyddfa Gartref, yn cynnwys cynrychiolaeth o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i bob awdurdod lleol i gefnogi eu hymdrechion yn ychwanegol at yr ymdrechion rydym yn eu gwneud ledled Cymru, fel bod gan awdurdodau lleol allu i'w wneud eu hunain yn eu hardaloedd lleol. Un o nodweddion y ffigurau hyn yw ei bod yn ymddangos bod mwy o obaith o gael statws preswylydd sefydlog yng Nghymru yn hytrach na statws preswylydd cyn-sefydlog na mewn rhannau eraill o'r DU. Un o'r ffynonellau pryder mawr i'r rhan fwyaf o ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun yw'r nifer uchel iawn o bobl sy’n cael statws preswylydd cyn-sefydlog mewn amgylchiadau lle byddem yn disgwyl gweld statws preswylydd sefydlog yn cael ei roi. Ac rwy’n credu ei bod hi'n anodd gorddatgan y math o bryder sy'n deillio o hynny. I lawer o bobl, ymwneud â'r math hwn o fiwrocratiaeth polisi ymfudo yw'r tro cyntaf iddynt orfod gwneud hynny erioed. Ac felly, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i’w wneud yn syml, a rhoi cymaint o gefnogaeth ag y bo modd, a chynyddu gobaith y rhai sy'n gymwys i gael eu statws preswylwyr sefydlog a gwarchod eu hawliau yma.