Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 26 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i chi am yr ateb hwnnw? Gan symud ymlaen at fater arall cysylltiedig, mae cyfran sylweddol o gyfraith cyflogaeth y DU, fel y clywsom eisoes, yn tarddu o'r UE, gan gynnwys y gyfarwyddeb oriau gwaith Ewropeaidd. Dyna a ataliodd feddygon rhag gweithio 120 awr bob wythnos i lawr i tua 58 awr dros y blynyddoedd. Felly, a gaf fi ofyn: pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ynglŷn â diogelu hawliau cyflogaeth i weithwyr yng Nghymru ar ôl Brexit?