Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 26 Chwefror 2020.
Wel, roedd y datganiad gwleidyddol, fel y bydd yr Aelod yn cofio o bosibl, yn glir fod y ddau barti—Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y pwynt hwnnw, a'r Undeb Ewropeaidd—yn ymrwymo i gynnal safonau, o ran hawliau'r gweithle ac yn y blaen, a oedd ar waith ar ddiwedd y cyfnod pontio. Roedd hynny'n un o nodweddion y datganiad gwleidyddol.
Rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy mhryder ynghylch darllen hap-geisiadau ac mewn areithiau gan y Prif Weinidog ac eraill, ynghylch y potensial, fel y byddent yn ei ddisgrifio—a byddai ef a minnau'n ei ddisgrifio fel anfantais—gwanhau rheoliadau llafur o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r mathau hynny o uchelgeisiau ac amcanion yn rhai rydym yn eu rhannu yn y Llywodraeth hon ac ni fyddent yn cael eu rhannu'n eang ar draws y Siambr hon. Credwn fod y math o berthynas y bydd pobl yng Nghymru yn ei disgwyl yn y dyfodol yn un sy'n ein galluogi i gynnal y safonau llafur hynny, yng Nghymru ac yn y DU, ac i gael ymrwymiad i wneud hynny fel y gallwn fanteisio ar y lefel honno o gysoni i gefnogi ein heconomi i'r dyfodol.