Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Nid oes llawer o bethau sy'n fwy brawychus na gweld eich cartref yn cael ei ddifrodi pan nad oes gennych unrhyw rym i'w atal. Yr wythnos diwethaf, dihunodd trigolion ar draws fy rhanbarth i weld dinistr difrod llifogydd ac maent wedi bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ailadeiladu eu bywydau. Nawr, yn amlwg, mae ymdrechion yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y glanhau uniongyrchol, ond ar ôl clirio'r llanast, bydd cwestiynau'n aros, er enghraifft pam na ragwelwyd y digwyddiadau hyn gan y rhai sydd mewn grym. Nawr, honnwyd yn y Siambr hon nad oedd modd rhagweld y llifogydd hyn. Buaswn i'n anghytuno â hynny. Datganodd y Llywodraeth hon argyfwng hinsawdd y llynedd. Roedd hynny'n gydnabyddiaeth fod tymheredd uwch yn gwneud stormydd o'r fath yn fwy tebygol. Roedd y stormydd yn rhagweladwy. Pam na wnaed mwy o waith ar atal y dinistr, a pha wersi a gaiff eu dysgu?
Nawr, rwy'n deall bod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2010 yn rhoi cyngor i Weinidogion ar yr angen i wario arian ar addasiadau i atal llifogydd. Diddymwyd y comisiwn yn 2013, ac mae gennyf dystiolaeth anecdotaidd fod y Llywodraeth wedi anwybyddu peth o'r cyngor a roddwyd. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a ddilynwyd y cyngor arbenigol a roddwyd, a oes yna lwybr papur, ac os oes, a gaem weld y cyngor hwnnw. Hoffwn ofyn cwestiwn arall: pam mai'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd yn aml yw'r bobl sy'n dioddef fwyaf yn yr amgylchiadau hyn?
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £500 yn ychwanegol i gartrefi heb yswiriant ar gynnwys aelwydydd, ond mae hynny fel diferyn mewn llifddwr disymud. Gadewch i ni fod yn onest—nid oedd y bobl heb yswiriant wedi esgeuluso'r angen i gael yswiriant, gwrthodwyd yswiriant iddynt oherwydd llifogydd blaenorol, neu dywedwyd wrthynt fod y premiymau'n rhy uchel iddynt allu eu fforddio. Felly, pa sgyrsiau y mae eich Llywodraeth yn eu cael gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i roi pwysau ar y diwydiant yswiriant i beidio â gwrthod yswiriant i'r bobl sydd ei angen fwyaf? Ac mae'r cynllun Flood Re sy'n bodoli i'w groesawu, ond pam fod cyn lleied o bobl yn gwybod amdano?
Hoffwn ofyn rhai pethau penodol i dawelu meddyliau trigolion. Yn Islwyn, cwympodd y geuffos ar safle Navigation, gan roi marc cwestiwn dros fisoedd o waith adfywio y gwn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w gefnogi. Pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i gyfeillion y Navigation i unioni hyn ac atal llifogydd mewn ardaloedd preswyl cyfagos? Yng Nghrymlyn, mae'n rhaid newid y seilwaith draenio priffyrdd neu bydd llifogydd i eiddo eto. Felly, os na ellir gwneud newidiadau, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried prynu'r eiddo yr effeithir arnynt?
Yn olaf, mae trigolion yn y Fenni yn pryderu y bydd cynlluniau i israddio eu hadran damweiniau ac achosion brys yn eu rhoi mewn perygl yn y dyfodol gan fod y brif ffordd i'r adran damweiniau ac achosion brys agosaf yng Nghwmbrân wedi cau yn ystod y llifogydd. Nawr, mae llifogydd fel hyn yn debygol o ddigwydd eto, felly pa ystyriaeth fydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r materion hyn wrth benderfynu a ddylid atal yr adran honno rhag cau?
Lywydd, nid oes neb yn honni bod cynghorau na'r Llywodraeth wedi methu gweithredu i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd drwy falais. Nid oedd unrhyw falais, ond roedd yna elfen o esgeulustod, methiant i ragweld y rhagweladwy. Mae pobl am gael sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn barod amdani y tro nesaf. Weinidog, a allwn ni roi'r sicrwydd hwnnw iddynt?