Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 26 Chwefror 2020.
Lywydd, roeddwn wedi meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd rhan yn y ddadl, oherwydd, yng ngoleuni popeth sy'n digwydd, roedd y cyfan yn ymddangos braidd yn anamserol, ond hefyd yn un lle mae'n dod gan blaid sydd heb unrhyw fandad democrataidd yn y Siambr hon. Mae'n gynnig a gyflwynir gan blaid nad yw erioed wedi'i hethol i'r Cynulliad hwn; ni fu erioed etholiad Cynulliad lle mae Plaid Brexit wedi ymddangos ar unrhyw bapur pleidleisio; nid ydynt erioed wedi cael cefnogaeth unrhyw faniffesto neu gynnig polisi yng Nghynulliad Cymru; ac i bob pwrpas, mae eu presenoldeb yn y Siambr hon yn ganlyniad annisgwyl system etholiadol a fwriadwyd i ehangu cynrychiolaeth ddemocrataidd, ond sydd, yn fy marn i, wedi cael ei chamddefnyddio i danseilio ei gwir amcan democrataidd.
Ac mae'n rhaid ichi ofyn beth yw gwir bwrpas y cynnig hwn. Wel, rwy'n credu ei fod yn ymgais fanteisgar i ymelwa ar leiafrif o boblyddiaeth wrth-wleidyddol, yn y gobaith y bydd yn rhoi rhywfaint o sail etholiadol iddynt yn ystod etholiadau nesaf y Cynulliad pan fyddant yn dymuno dychwelyd i'r Siambr hon. Yn fy marn i, mae'n gynnig sy'n ymgais sinigaidd a digywilydd i hybu buddiannau breintiedig a goroesiad gwleidyddol. A daw un o'r gwelliannau gan Aelod na all hyd yn oed drafferthu byw yng Nghymru. Mewn gwledydd eraill, mae'r gêm hon o newid pleidiau, ailenwi, ail-greu, yn ôl mympwyon a hunan-fudd yr unigolion dan sylw, yn annemocrataidd, ac rwy'n ei ystyried yn annemocrataidd—wel, yn sicr mewn gwledydd eraill, byddai'n cael ei ystyried yn annemocrataidd. Ac mae creu'r Cynulliad hwn—y Senedd hon bellach—yn ganlyniad i fandadau amryw o etholiadau cyffredinol a refferenda, ac mae mandad democrataidd clir o'i blaid.
Mae datganoli i mi yn ymwneud â grymuso, mae'n ymwneud â datganoli grym a'i ddwyn mor agos at y bobl ag y bo modd. Mae'n wir fod llawer iawn o hyder wedi'i golli yn ein system wleidyddol ddemocrataidd, a bod y rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas ynglŷn â Brexit wedi cyfrannu at hyn, yn ddiau, a rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Ond mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar ffyrdd o rymuso cymunedau fwyfwy, ac atgyfnerthu llywodraeth leol a chymunedau, a sicrhau bod y rhain yn digwydd o fewn fframwaith o werthoedd cyffredin. Ac ni ddylem anwybyddu'r hyn y gallasom ei gyflawni hyd yma drwy ddatganoli grym i bobl Cymru, fel y mae datganoli wedi ein galluogi i'w gyflawni.
Mae'r rheini ohonom a gafodd eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli, yn enwedig cyfnod Thatcher, yn ymwybodol iawn o fethiannau'r system wleidyddol ganolog, unbenaethol, o'r brig i lawr roeddem yn ddarostyngedig iddi. Ac ers hynny, gyda datganoli, rydym wedi atal preifateiddio'r GIG, er enghraifft, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Rydym wedi gwrthsefyll y preifateiddio a'r darnio sy'n digwydd yno ym myd addysg. Rydym wedi gwrthwynebu ymdrechion i gyflwyno systemau addysg detholus fel sy'n digwydd yn Lloegr. Ac rydym wedi gwarchod gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi arwain y ffordd ym maes partneriaeth gymdeithasol, trawsblannu organau, hawliau tenantiaid, ac yn economaidd mae lefelau cyflogaeth yn uwch nag a welwyd ers degawdau—lefelau cyflogaeth na fyddem ond wedi breuddwydio amdanynt ddegawdau'n ôl. Yng Nghymru mae gennym y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac rydym yn darparu meddyginiaeth am ddim yng Nghymru, yn wahanol i Loegr. Ac rydym bellach yn ymestyn ein hawl ddemocrataidd i bleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 oed.
Felly, rydym wedi cyflawni hyn, ac rydym wedi cyflawni llawer mwy, mewn degawd o gyni gan y Torïaid, sydd wedi ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus. Ac wrth gwrs mae ffordd bell i fynd, a llawer i'w wneud, ac mae yna fethiannau, ac mae yna bethau sy'n mynd o chwith. Ond ar hynny, fe ddywedaf hyn, a dywedaf wrth y rhai na chawsant eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli: pan soniwn am y camgymeriadau a wnaethom, a'r pethau sy'n mynd o chwith, wel, mae hynny'n digwydd am ein bod yn gwybod amdanynt, gallwn eu trafod, gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Yn y cyfnod cyn datganoli, ni allem byth wneud hynny—nid oeddem yn gwybod amdanynt, ac roeddent wedi'u cuddio. Dyna'r math o ddemocratiaeth a oedd gennym bryd hynny, a dyna pam fod datganoli grym mor bwysig, a pham fod datganoli mor bwysig. Gallwn yn awr ddwyn ein gwleidyddion a'n sefydliadau gwleidyddol i gyfrif mewn ffordd na allem byth mo'i wneud o'r blaen.
Mae'r cynnig hwn, Lywydd, yn negyddol, mae'n gynnig dinistriol, o'r math rydym wedi dysgu ei ddisgwyl gan y dde eithafol. Nid yw'n cyfrannu dim at yr heriau sy'n wynebu Cymru, a dylid ei wrthod yn llwyr.