Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:32, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Gallem i gyd gael gwledd wych gyda'r cynnyrch bwyd a diod da sy'n dod o Aberconwy. Mae gennym jin, gwin, cig, bwyd môr, caws, siocled a chymaint mwy i'w gynnig, cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, felly mae'n dangos y potensial anhygoel sydd i dwristiaeth bwyd yn Aberconwy, a ledled gogledd Cymru yn wir. Nawr, yn ôl y 'Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru 2015-20', mae twristiaeth bwyd yn ymwneud â helpu ymwelwyr i ddatgelu ein trysorau coginio lleol, nid gadael i ymwelwyr ddod ar eu traws ar hap. Nodwyd pum peth allweddol, a chyflwynwyd syniadau diddorol, megis datblygu gwefan twristiaeth bwyd i gwsmeriaid. Weinidog, a ydych chi wedi meddwl am adeiladu ar hyn trwy greu llwybrau bwyd, a hynny ar sail etholaethau ledled Cymru o bosibl? Diolch.