Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:33, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn sicr wedi edrych ar lwybrau bwyd, ac rydym wedi edrych hefyd ar lwybr gwin, oherwydd, unwaith eto, mae'r diwydiant gwin yng Nghymru yn ffynnu o ddifrif, buaswn yn dweud; rwy'n credu bod gennym oddeutu 15 o winllannoedd ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn. Felly, rydym yn sicr wedi edrych ar lwybr gwin. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi edrych ar lwybrau bwyd fesul etholaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud serch hynny, mewn perthynas â thwristiaeth bwyd—ac fe sonioch chi am jin, a thybiaf eich bod yn cyfeirio at Aber Falls—roeddwn yn Aber Falls tua phythefnos yn ôl, ac maent yn adeiladu canolfan ymwelwyr wych, lle maent yn gobeithio dod â busnesau eraill i mewn, nid yn unig busnesau bwyd a diod, ond busnesau eraill hefyd i weithio oddi yno. Felly, rwy’n credu bod twristiaeth bwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan.