Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Mawrth 2020.
Gallaf. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe ac rwy'n meddwl fod hwn yn gyfle arall, Ddirprwy Lywydd, i dalu teyrnged i staff CNC a weithiodd yn ddiflino, ac sy'n dal i weithio'n ddiflino yn awr, ers yn agos i fis bellach, mae'n debyg, ers storm Ciara. Yn amlwg, fe fuom yn trafod y llifogydd yn drylwyr iawn. Rwy'n credu inni dreulio tri chwarter y cyfarfod yn gwneud hynny. Mae'n amlwg fod rhai materion yn codi ynghylch adnoddau dynol. Felly, rwy'n credu bod ychydig dros 300 o staff yn gweithio yn CNC ar lifogydd. Ceir rhai swyddi gwag o hyd, ac er ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y swyddi gwag, maent yn dal i geisio llenwi rhai swyddi. O ran cyllid, cynigiwyd cyllid pellach pe bai ei angen arnynt yn yr ymateb cyntaf i'r gwaith glanhau. Ar hyn o bryd, nid oes angen y cyllid hwnnw arnynt, ond yn amlwg mae'r cynnig ar y bwrdd o hyd.