Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth y Cynulliad yma, yn sgil y llifogydd a ddigwyddodd ychydig wythnosau yn ôl, eich bod chi wedi trefnu cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, ac y byddai'r adnoddau sydd ar gael—boed yn adnoddau dynol neu'n adnoddau ariannol—ar frig agenda'r cyfarfod hwnnw. Allwch chi roi diweddariad i ni o'r trafodaethau yr ŷch chi wedi'u cael a'r hyn a gytunwyd yn y cyfarfod?