Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwneud pwynt da iawn wrth ofyn y cwestiwn hwn, oherwydd maent mor bwysig, ac rwy'n parchu'n fawr y targed 2020 sydd gan Lywodraeth Cymru i blannu 2,000 hectar o goed bob blwyddyn. Ond ochr yn ochr â hynny, ac fel ymateb i gais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaethom sefydlu, ar draws y pedwar safle a reolir gan CNC, lle lleolwyd ffermydd gwynt ar y tir, fod cyfanswm o 1,938,400 o goed wedi'u cwympo, sy'n cyfateb i golli 1,155 hectar o goed. Felly, yn y bôn, mae twll yng ngwaelod y bwced, onid oes—wrth i chi eu plannu, cânt eu cwympo. Felly, Weinidog, a allwch roi rhyw syniad inni o'r rhesymeg y tu ôl i hynny? Ac a wnewch chi ymrwymo felly i gynyddu eich cyfradd ailblannu, o gofio bod CNC yn cwympo bron mor gyflym ag y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio plannu?