Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 4 Mawrth 2020.
Nid wyf yn ymwybodol o'r rhesymau penodol dros y ffigur y mae Angela Burns yn cyfeirio ato, ond yn sicr, mae ailblannu yr un mor bwysig i mi ag yw safleoedd newydd. Ond byddaf yn sicr o edrych ar y ffigur hwnnw a rhoi ateb i'r Aelod pam y mae hynny'n digwydd. Ond mae CNC yn ymwybodol iawn o'r targed sydd gennym, ein hangen i'w gyrraedd. Nid wyf yn credu bod 2,000 hectar yn rhy uchelgeisiol. Rwy'n credu y dylem allu gwneud hynny, ac yn amlwg, gyda'r goedwig genedlaethol hefyd, rwy'n obeithiol iawn y cyrhaeddir y ffigur hwnnw.