Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 4 Mawrth 2020.
I ategu fy ateb i Angela Burns, mae'n bwysig fod CNC yn cydnabod yr angen i ailblannu, ac yn amlwg ceir coed heintiedig y mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn gallu ailblannu yn eu lle ar ôl i amser penodol fynd heibio. Rwy'n credu bod plannu coed yn ddyhead hirdymor. Fi yw'r cyntaf i gyfaddef nad ydym yn plannu digon o goed, am amryw o resymau, ond rydym wedi ymrwymo i wneud yn well yn y dyfodol, fel y gallwn fynd i'r afael ag argyfyngau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a darparu'r manteision lluosog y cyfeiriodd Mike Hedges atynt yn ei gwestiynau cychwynnol.