Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:58, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, nodwyd clefyd gennych fel un o'r rhesymau pam rydym yn cwympo coed. Yn amlwg, yng nghwm Afan, gwelsom y rhai cyntaf o'r coed heintiedig yn cael eu cwympo, ac maent yn dal i gael eu cwympo yno yn awr. Mae ailblannu yn hollbwysig. Felly, a wnewch chi gynnal trafodaethau gydag CNC i sicrhau bod eu cynlluniau ailblannu yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl? Oherwydd nid yn unig y mae'n effeithio ar y coed, ond mae hefyd yn effeithio ar ddiwydiant a busnesau sy'n elwa o'r beicio mynydd yng nghwm Afan, sy'n colli cwsmeriaid oherwydd y cwympo.