1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2020.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OAQ55222
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd yn parhau mewn sawl maes gofal iechyd meddwl yn y gogledd. Hoffwn longyfarch staff yn Ysbyty Gwynedd ac mewn ysbytai cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gael eu cydnabod fel rhai sy'n deall dementia. Mae'r bwrdd yn rhoi blaenoriaeth i atal ac ymyrryd yn gynnar wrth roi gofal i gleifion ar draws gwasanaethau iechyd meddwl.
Tra bod yna, wrth gwrs, straeon da, fel rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, o safbwynt peth o'r gofal, rŷm ni yn ymwybodol, wrth gwrs, mai un o'r rhesymau y rhoddwyd y bwrdd iechyd mewn i fesurau arbennig oedd oherwydd methiannau pan mae'n dod i wasanaethau iechyd meddwl. Nawr, mi roedd hi'n siom darllen adroddiad llynedd, oedd yn adolygiad o therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru, oedd yn rhestru llith o fethiannau. Roedd e'n sôn am gleifion yn gorfod aros am gyfnodau annerbyniol o hir; diffyg datblygu gweithlu strategol ac integredig; a diffyg data sylweddol yn arwain at agendor mawr wrth wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. A dim ond yn nadl Plaid Cymru wythnos diwethaf ar y pwnc yma, roeddem ni'n clywed sut mae yna gleifion o Gymru, wrth gwrs, wedi cael eu lleoli mewn sefydliadau yn Lloegr sydd wedi cael eu dangos gan yr awdurdodau fanna i beidio â bod yn cwrdd â'r safonau y byddem ni'n gobeithio y maen nhw.
Nawr, wrth gwrs, mae yna bum mlynedd, bron iawn, ers i'r bwrdd fynd i mewn i fesurau arbennig, ond mae llawer o'r methiannau hynny'n parhau. Felly, y cwestiwn yw, wrth gwrs: pryd ŷch chi, fel Llywodraeth, yn mynd i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr yma o faterion sy'n dal yn ddiffygiol? Yn wir, pryd welwn ni Lywodraeth Cymru yn cael ei rhoi i mewn i fesurau arbennig ar y mater yma?
Wel, Llywydd, wrth gwrs, dwi'n cydnabod roedd y ffaith bod problemau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan o'r penderfyniad i roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig yn y lle cyntaf, ond mae lot o bethau wedi gwella yn y maes iechyd meddwl dros y blynyddoedd ers cael ei roi i mewn i fesurau arbennig.
O ran therapïau seicolegol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ei hun oedd hwn. Bydd yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £1 filiwn o fuddsoddiad ychwanegol yn uniongyrchol i'r bwrdd i weithredu ar argymhellion yr adroddiad, a gomisiynwyd ganddo ef ei hun. Ac, er bod llawer o faterion y mae'r adroddiad hwnnw'n eu hamlygu y mae angen i'r bwrdd roi sylw iddyn nhw, cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw hefyd at lawer o enghreifftiau lle mae camau arloesol, llawn dychymyg ac ymroddgar yn cael eu cymryd gan dimau sy'n darparu therapïau seicolegol yn y gogledd.
A chyn belled ag y mae cleifion sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru yn y cwestiwn, ceir gostyngiad parhaus i nifer y cleifion sy'n cael eu lleoli yn y modd hwnnw. Yn 2018, lleolwyd 130 o gleifion o bob cwr o Gymru mewn gwasanaethau yn Lloegr, a'r llynedd, yn 2019, roedd hynny wedi gostwng i 96, ac mae hynny o ganlyniad i ymdrechion cyfunol y mae byrddau ledled Cymru yn eu gwneud i ailwladoli gwasanaethau a dod â chleifion yn nes adref, ac rwy'n credu mai dyna'r peth cwbl gywir iddyn nhw ei wneud.
Pan fo'n rhaid lleoli cleifion dros y ffin—a bydd enghreifftiau o angen penodol iawn bob amser—yna mae gennym ni ein tîm sicrwydd ein hunain sy'n ymweld â phobl yn y lleoedd hynny, sy'n sicrhau hyd yn oed os yw'r gwasanaeth, yn ei gyfanrwydd, yn destun craffu, bod y gwasanaeth a ddarperir i'r claf hwnnw o Gymru o safon y byddem ni'n barod i'w chydnabod. Ac os nad yw hynny'n wir—ac ni ddylem ni anghofio, yn yr enghraifft ddiweddar o ysbyty St Andrews, mai oherwydd ymweliad gan arolygydd o Gymru y codwyd pryderon—yna nid ydym yn lleoli cleifion yno mwyach ac rydym ni'n gwneud trefniadau eraill pan fo hynny'n angenrheidiol.
Ar 22 Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru at eich Gweinidog iechyd, gan dynnu ei sylw at yr adroddiad y cyfeiriwyd ato—yr adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a gynhaliwyd yn annibynnol gan yr ymgynghoriaeth gydweithredol TogetherBetter—a thynnu ei sylw at ei ganfyddiadau o ddiffyg gweledigaeth gyffredin, eglurder a goruchwyliaeth strategol ar lefel bwrdd iechyd a lefel is-adrannol, diffyg datblygiad gweithlu strategol ac integredig, a llawer mwy, a dywedodd, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, bod llawer ohono'n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl—bod y canfyddiadau hyn yn hynod siomedig. Dywedasant wrthyf hefyd bod ymateb eithaf di-ddim y Gweinidog yn siomedig hefyd. Sut ydych chi'n ymateb i gynnwys y llythyr yr wyf i wedi ei gael gan athro seiciatreg a adawodd Betsi Cadwaladr ar 31 Ionawr, ac a ddywedodd fod y problemau'n ymwneud â'r newidiadau a gynigiwyd gan reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau yn y gogledd-orllewin—nad oes yr un o'r staff meddygol na'r staff nyrsio yno yn ei gefnogi?
Nid wyf i wedi gweld y llythyr hwnnw, Llywydd, felly nid wyf i mewn sefyllfa i ymateb iddo. Roeddwn i'n ymwybodol o'r llythyr gan y cyngor iechyd cymuned ar 22 Ionawr. Cyfeiriodd ymateb y Gweinidog ar y pryd at y ffaith bod hwnnw'n adroddiad y disgwyliwyd iddo gael ei ystyried gan y bwrdd, ac mai cyfrifoldeb y bwrdd, fel comisiynydd yr adroddiad hwnnw, oedd rhoi'r ystyriaeth gyntaf iddo. Fel y dywedais yn fy ateb i Llyr Gruffydd, mae'r adroddiad yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth a gwn y bydd y Gweinidog eisiau clywed gan y bwrdd y cynllun y bydd yn ei roi ar waith i ymateb i argymhellion yr adroddiad yr oedd ef ei hun wedi ei gomisiynu.