Grŵp 2: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — ystyr ‘ansawdd’ (Gwelliannau 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:32, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, rydym yn gwrthod y syniad bod y safonau presennol yn ddigonol a byddem yn ystyried pob un o'r tri chategori hynny yr wyf wedi sôn amdanynt—atal, lleihau anghydraddoldebau, a'r iaith Gymraeg—i fod yn ddigon pwysig i'w rhoi ar wyneb y Bil. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfaddef y dylai diogelwch, effeithiolrwydd a'r profiad fod ar wyneb y Bil fel rhan o'r hyn y mae ansawdd yn ei olygu, er gwaethaf y ffaith bod safonau iechyd a gofal hefyd yn cyfeirio at y rheini. Mae wedi diffinio rhai pethau newydd y mae eisiau eu pwysleisio drwy ddod â nhw i wyneb y Bil. Pam ddim atal, lleihau anghydraddoldebau, a'r iaith Gymraeg? Ni welwn unrhyw reswm pam na ddylai ffactorau pwysig eraill o ran ansawdd y gwasanaeth fod ar wyneb y Bil hefyd. Mae'n rhoi arwydd cliriach o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn bwysig.

Y cwestiwn arall i'w ofyn yw, os yw'r holl ddangosyddion ansawdd pwysig hyn eisoes yn rhan o'r safonau iechyd a gofal, pam y mae angen y ddeddfwriaeth hon o gwbl? Onid yw ansawdd eisoes yn rhan o'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r GIG? Os yr ateb i hynny yw bod y safonau'n annigonol i'r Gweinidog eu gorfodi ar fyrddau iechyd, yna yr hyn sydd ei angen yw naill ai cryfhau'r canllawiau presennol ar safonau, neu sicrhau bod safonau a ystyrir yn bwysig ac na chânt eu bodloni ar hyn o bryd yn cael eu rhoi ar wyneb y Bil. Felly, naill ai mae'r safonau'n ddigonol, ac felly nid oes angen y Bil, neu mae'r safonau'n annigonol, ac mae angen y Bil hwn arnom. Os nad ydyn nhw ddigonol, yna mae angen i'r Bil hwn gael adran gryfach o lawer ar ddiffinio beth yw ansawdd. Felly, gofynnaf ichi gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr iawn.