Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Byddwn i'n tybio bod y gwelliannau yma'n eithaf canolog at yr hyn rydym ni'n ei drafod heddiw. Mae hwn yn Fil sy'n ymwneud ag ansawdd o fewn iechyd a gofal, a gwelliannau ydy'r rhain ynglŷn â beth yn union rydym ni'n ei olygu wrth ansawdd, neu beth rydym ni'n ei olygu wrth y safon a safonau rydym ni'n eu disgwyl o fewn ein gwasanaethau ni yng Nghymru. Mae yna welliannau yma sy'n ymwneud ag atal afiechyd, mae yna welliannau yn ymwneud â chael gwared ar anghydraddoldebau iechyd, a hefyd gwelliannau ynglŷn ag anghenion i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, achos rydym ni'n credu, yn y tri maes yna, bod angen ansawdd go iawn, bod angen safonau uchel yn yr hyn y dylem ni allu ei ddisgwyl. Dwi'n disgwyl i'r Gweinidog ymateb i'r ddadl yma drwy ddweud bod y safonau iechyd a gofal eisoes yn ystyried y materion hyn. Felly, gadewch inni edrych ar rai ohonyn nhw.
Mae safon 1.1, yn gyntaf, yn cyfeirio at ymddwyn yn ataliol ac yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd. Mae o'n dweud:
'Mae pobl wedi’u grymuso ac yn cael eu helpu i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain ac mae gofalwyr am unigolion sy’n methu rheoli eu hiechyd a’u lles eu hunain yn cael cymorth. Mae gwasanaethau iechyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl a lleihau anghydraddoldebau iechyd.'
Dwi ddim yn teimlo bod hwnnw, ynddo'i hun, yn cael ei gyrraedd bob amser. Mae'n bosib bod angen mynd ymhellach na hynny.
Pan mae'n dod at yr iaith Gymraeg, does yna ddim rhan benodol ynglŷn â'r Gymraeg yn y safonau. Beth sydd yna ydy crybwyll y Gymraeg mewn rhannau eraill o'r safonau. Safon 2.7, er enghraifft, sy'n ymwneud â diogelu plant a diogelu oedolion sy'n wynebu risg, mae'n dweud hyn:
'Rhoddir blaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau sy'n galluogi plant ac oedolion agored i niwed i fynegi eu hunain a chael gofal trwy gyfrwng y Gymraeg am fod eu gofal a'u triniaeth yn gallu dioddef pan nad ydynt yn cael eu trin yn eu hiaith eu hunain.'
Mae yna hefyd gyfeiriad at yr iaith Gymraeg yn y safonau fel ffordd o greu mynediad cyfartal i bawb i wasanaethau, yn dweud y dylai pobl weld bod parch yn cael ei ddangos tuag at eu hunaniaeth ddiwylliannol nhw, ac y dylen nhw allu cael mynediad at wasanaethau Cymraeg eu hiaith heb unrhyw rwystrau o'u blaenau nhw, er na fyddai pawb sy'n gyfrifol am roi y gofal iddyn nhw yn gallu siarad Cymraeg.
Ond safonau ydy'r rhain sydd yn eu lle ers 2015 a, wir, dwi ddim yn credu y buasai unrhyw un yn gallu dadlau bod pob sefydliad NHS yng Nghymru yn cyrraedd y mathau yna o safonau. Dwi'n meddwl bod y diffyg rhan benodol ynglŷn â'r iaith Gymraeg yn awgrymu nad ydy o wir yn cael ei ystyried yn bwysig iawn o ran yr ansawdd, o ran y safonau y dylid cael eu disgwyl gan bobl. Mae'n teimlo fel rhywbeth sydd wedi cael ei ychwanegu yna ar y diwedd.