– Senedd Cymru am 6:04 pm ar 10 Mawrth 2020.
Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd a data. Gwelliant 38 yw'r unig gwelliant yn y grŵp. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 38. Angela Burns.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers tua 10 mlynedd bellach, ac rwyf wedi eistedd ar amrywiaeth eang o bwyllgorau—cyllid, iechyd, addysg, plant a phobl ifanc, fel yr oedd—a thrwy'r amser rydym yn sôn am 'Sut ydym yn gwybod?' Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n perfformio'n dda? Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n cyrraedd ein targedau? Sut ydym yn gwybod ein bod ni'n cyflawni'r canlyniadau am yr arian yr ydym yn ei wario? Mae'r gwelliant hwn, gwelliant 38, yr wyf yn ei gynnig yn ffurfiol, yn ymwneud â chael y data fel bod gennym yr wybodaeth er mwyn inni allu gwneud y cynllunio.
Mae'n welliant a oedd yn seiliedig ar awgrym gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, ond mewn gwirionedd mae'n wir o ran holl amcan y Bil hwn. Rydym eisiau gwybod pa mor dda yw ein data canlyniadau llawfeddygol ar lefel uned. Unwaith eto, hoffwn atgoffa'r Aelodau o ffaith gyffrous arall: sawl gwaith y mae unrhyw un ohonoch chi—ac efallai nid chi, ond rwy'n siŵr Aelodau o Blaid Cymru ac rwy'n siŵr Aelodau o Blaid Brexit, rwy'n adnabod aelodau o'm plaid i ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r Aelodau annibynnol wedi rhoi ceisiadau rhyddid gwybodaeth i geisio tyllu'n ddwfn i gael yr wybodaeth honno i ddarganfod beth ddigwyddodd: ble; pryd; sut? Faint o bethau sydd wedi'u cyflawni; faint o lawdriniaethau sydd wedi digwydd; pa fath o lawdriniaethau; beth yw'r rhwystrau? Oherwydd drwy wybod beth sy'n digwydd, drwy gael y data hynny, gallwch ddechrau llywodraethu'n dda. Gallwch chi fynd yn ôl, gallwch herio a gallwch graffu. Mae a wnelo'r gwelliant hwn â chael data da.
Gwrandewais, Gweinidog, ar eich ymateb yng Nghyfnod 2. Roeddech yn pryderu'n fawr am restr ragnodol o wybodaeth, ac roeddwn yn derbyn hynny. O ganlyniad, mae'r gwelliant yma yng Nghyfnod 3 yn ehangach ac mae hefyd yn cynnwys yr angen i rannu'r data gyda Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i lywio eich gwaith a'ch cynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â'ch helpu chi a helpu eich timau GIG i berfformio'n well, i wella'r gwaith, i wybod beth sy'n digwydd.
Cefais fy siomi'n fawr gan eich ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Nid yw'n ddigon da rhestru'r dangosyddion cyfredol y mae'n rhaid i fyrddau iechyd eu cyflawni i fesur eu perfformiad. Rwy'n nodi'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru o ran cofnodi digwyddiadau, cwynion a chanlyniadau andwyol ym maes gofal iechyd, yn ogystal â'r nod o ddatblygu un fframwaith ar gyfer mesur a meincnodi data sy'n gysylltiedig ag ansawdd dan y cynllun ansawdd a diogelwch pum mlynedd, ond nid wyf yn credu bod y rhain yn ddigonol eto i ddadansoddi canlyniadau cleifion yn briodol. Rwy'n credu y byddai'n gam rhagweledol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fonitro cynnydd y rhaglenni hynny'n fanwl o ystyried y problemau a fu gennym yn y gorffennol o ran casglu data. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai dim ond yn ddiweddar y gwelsom fod rhywfaint o'r data yng Nghwm Taf Morgannwg yn gwbl anghywir. Roeddent wedi camosod, rwy'n credu, 2,700 o lawdriniaethau, apwyntiadau a chanlyniadau. Mae arnom angen data da ac effeithlon. Mae'r Bil hwn yn gyfle inni wneud hynny. Os gwelwch yn dda, Aelodau, ystyriwch hynny a phasio'r gwelliant hwn.
Rhun ap Iorwerth.
Diolch am y cyfle i ddweud gair neu ddau eto. Mae hwn, eto, yn faes le, os ydyn ni am gael Bil sydd werth ei gael, mae'n rhaid inni chwilio am ffyrdd i gael impact drwyddo fo, ac rydym ni'n gwybod o brofiad bod diffyg data yn ein dal ni yn ôl o ran ein gallu ni i godi ansawdd o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal. Rydym ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Rydym ni'n gwybod bod data a phrinder data yn broblem o fewn yr NHS, ac mae hi'n bwysig i fi i feddwl y dylem ni fod yn cael byrddau iechyd lleol i brofi eu bod nhw'n cydymffurfio efo deddfwriaeth, achos fel arall, y cwbl a gawn ni ydy rhyw sicrwydd amwys bod popeth yn iawn tan rydym ni'n diweddu efo sefyllfa yn debyg i Gwm Taf eto, lle rydym ni'n canfod nad ydy pethau ddim yn iawn. Dyma gyfle i ymateb i'r sefyllfa honno.
Y Gweinidog i gyfrannu, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Llywydd. Mae llawer o systemau ar waith eisoes i gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae llawer o hyn yn cael ei gofnodi ar sail Cymru a Lloegr, os nad ar sail y DU gyfan, fel yr ystod o archwiliadau clinigol cenedlaethol. Yr hyn sy'n cael ei wneud gyda'r data hynny sydd, wrth gwrs, yn allweddol. Roedd gwelliannau 16, 17 a 18 yn ymdrin â'r gofyniad i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol mewn cysylltiad â'r ddyletswydd ansawdd ac i'r canllawiau hynny gynnwys y dystiolaeth ynglŷn â sut y gwnaed asesiad er mwyn sicrhau pwyslais cryfach ar ddefnyddio data a bod y data hynny yn ddibynadwy o ran galluogi corff i wneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau gwelliannau mewn canlyniadau ansawdd.
Ac, fel y gŵyr Angela Burns, mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill i symleiddio a gwella ein data a sicrhau bod pethau pwysig yn cael eu mesur yn rheolaidd mewn ffordd gyson a mwy clinigol berthnasol. Oherwydd ni fydd un ateb o anghenraid yn addas i bawb. Mae'n rhaid inni gadw rhywfaint o hyblygrwydd i bennu ac adolygu pa ddata a gesglir yn y ffyrdd gorau a mwyaf effeithiol, er mwyn aros cyfuwch â thechnoleg a gofynion eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, mae'r newidiadau yn y model clinigol a fabwysiadwyd yn eang yn Lloegr a'r Alban gan y gwasanaeth ambiwlans wedi golygu bod angen newidiadau i gasglu data a'r ffordd yr ydym yn dwyn y system i gyfrif o ran eu perfformiad.
Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo i weithredu'r llwybr canser hefyd yn golygu bod angen newid y math o ddata a gasglwn i weld a ydym yn sicrhau gwelliannau i ansawdd a darpariaeth y gwasanaeth. Ein bwriad yw datblygu data a gwybodaeth am ganser er mwyn cefnogi'r broses o gynllunio a darparu systemau'n well. Bydd hynny'n golygu casglu, defnyddio a chyhoeddi set fwy cynhwysfawr o ddata gweithgarwch.
Ac, fel y cyfeiriwyd ato gan Angela Burns, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth i gwblhau cynllun ansawdd a diogelwch pum mlynedd sy'n disgrifio ystod o argymhellion strategol lefel uchel, gan gynnwys gweithred benodol yn ymwneud â mynd i'r afael â mesurau, data a dadansoddeg. Bydd rhaglen waith gydweithredol yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, ac un o'r amcanion yw datblygu dull cenedlaethol o fesur a meincnodi data sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Disgwyliaf i'r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf o fewn y flwyddyn galendr hon.
Mae GIG Cymru hefyd yn y broses o weithredu system newydd, fel y cyfeiriwyd ati: System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru ar gyfer sut y mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cofnodi, yn adrodd, yn monitro, yn olrhain, yn dysgu ac yn gwneud gwelliannau o ddigwyddiadau, cwynion, hawliadau a chanlyniadau anffafriol eraill. Nod hyn yw sicrhau cysondeb o ran rheoli data a chynllunio llif gwaith yn y meysydd hyn, ledled Cymru. Bwriedir i'r system newydd gael ei rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf.
Rwy'n deall beth sydd y tu ôl i'r gwelliant hwn ac rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd data cyson, syml a chydlynol. Fel yr eglurais, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn sawl ffordd i gyflawni hynny'n union. Fel y tystia rhywfaint o'r gwaith yn y maes hwn a ddisgrifiais, nid wyf yn cytuno bod angen rhagor o ddeddfwriaeth i gyflawni hyn. Byddai deddfwriaeth yn sicr yn ychwanegu at fiwrocratiaeth ac yn dileu hyblygrwydd ac mae ganddi'r potensial gwirioneddol i arafu a hyd yn oed fygu gwaith arloesol yn y maes hwn. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant.
Angela Burns i ymateb i'r ddadl.
Diolch am hynny. Rhai o'r geiriau sydd fwyaf llithrig i mi yw geiriau fel 'bwriadu' a 'disgwyl', oherwydd dydyn nhw ddim yn dweud wrthych chi pryd yr ydych chi'n mynd i wneud rhywbeth a sut yr ydych chi'n mynd i'w wneud.
Felly, gadewch imi atgoffa'r Aelodau: ym mis Gorffennaf 2013—rydym nawr yn 2020—felly, saith mlynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithio i gyhoeddi—yn wir, nid yn unig y gwnaethoch chi ddweud hynny, ond fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddech yn gweithio i gyhoeddi data canlyniadau llawfeddygol yng Nghymru ar lefel uned, gydag addewid i ystyried data canlyniadau unigol yn ddiweddarach. Ni fu cynnydd; ni chyflawnwyd hyn. Bwriad y gwelliant hwn yw sbarduno addewidion Llywodraeth Cymru ac atgoffa'r Gweinidog ein bod eisoes wedi gofyn i hyn gael blaenoriaeth frys, fel sydd wedi digwydd eisoes yn y GIG yn Lloegr.
Pam mae hynny'n bwysig? Oherwydd petaech yn gwybod beth oedd yn digwydd, er enghraifft, gyda llawdriniaethau, faint ohonyn nhw sy'n cael eu canslo ac a yw'r canslo am reswm clinigol neu anghlinigol, gan y Bwrdd Iechyd a chan y claf—. Mae gennym ychydig o'r data hynny, ond dim digon i ddeall ble mae'r pwysau na beth sy'n cyfrannu at amseroedd aros hir, beth sy'n cyfrannu at y tagfeydd, a sut y gallwn eu datrys. Saith mlynedd—heb ei gyflawni o hyd. Dydw i ddim yn dal fy ngwynt. Os nad yw hwn yn cael ei basio, dydw i ddim yn dal fy ngwynt y byddwn yn gweld y data'n cael eu cyflwyno mewn modd amserol iawn, lle mae'n ddefnyddiol i'n helpu ni i fframio neu ail-fframio'r ffordd yr ydym yn gweithio yn ein GIG ni.
Y cwestiwn yw y dylid derbyn gwelliant 38. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn ni i bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y gwelliant.