8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:26, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Yn 2010 roedd datganiad cyllideb y DU, a luniwyd gan y Blaid Lafur, yn lleihau'r rhagolwg twf, yn lleihau benthyca, ac yn dweud fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. O ganlyniad, cyhoeddodd hefyd £545 miliwn o doriadau i'r heddlu i'w gwneud erbyn 2014. Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol fel seiber-droseddu, gwrthderfysgaeth, a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi cynnydd o £1.12 biliwn yn 2020-21, gan fynd â chyfanswm y setliad ar gyfer plismona i £15.2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £700 miliwn ar gyfer 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Fel y dywedodd y Gweinidog, nod Llywodraeth y DU yw recriwtio 20,000 o swyddogion newydd ledled y DU.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn dod yn uniongyrchol o grantiau'r Llywodraeth ganolog, fel y clywsom ni—o Lundain a Chaerdydd—ac mae tua thraean yn dod o braesept treth gyngor yr heddlu, sy'n cynyddu 6.82 y cant eleni, £273 y flwyddyn, yng Ngwent; 5.9 y cant, £273 y flwyddyn, yn ne Cymru; 4.83 y cant, £261 y flwyddyn, yn Nyfed-Powys; a 4.5 y cant, £291 y flwyddyn, yng ngogledd Cymru. Er i Ffederasiwn Heddlu De Cymru ddatgan yn 2016 fod y bwlch praesept treth gyngor gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru wedi'i gau erbyn hyn, mae'n amlwg, er mai yn y gogledd y mae'r cynnydd canrannol isaf, fod talwyr y dreth gyngor yno yn dal i dalu mwy na rhanbarthau Cymru sy'n wynebu'r cynnydd canrannol mwyaf.

Yn dilyn gostyngiad hirdymor, mae lefelau troseddu wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er na fu unrhyw newid yn lefelau cyffredinol troseddu yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae hyn yn cuddio'r amrywiadau a welir mewn mathau unigol o droseddau. Ac eithrio twyll, mae'r ffigurau diweddaraf o arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn dangos nad oedd unrhyw newid yn y prif fathau o droseddau. Fel y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

Er bod nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllell wedi parhau i gynyddu, ceir darlun cymysg rhwng y gwahanol heddluoedd ac mae lefelau trais cyffredinol yn parhau'n gyson.

Bydd y cynnydd yn y gyllideb yn y gogledd yn ariannu 10 yn rhagor o swyddogion ar gyfer yr uned troseddau mawr, 20 o heddweision cynorthwyol newydd, 16 o swyddogion ymateb ychwanegol, a phump yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol, gan gynnwys tri ar gyfer y tîm troseddau gwledig. Y penwythnos hwn, ymunodd yr Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru â Heddlu Gogledd Cymru i weld sut maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem llinellau cyffuriau yn y rhanbarth. Yn ogystal â chyhoeddi eu cynlluniau i recriwtio swyddogion heddlu newydd, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref hefyd y byddant yn darparu bron i £150,000 i Heddlu Gogledd Cymru ei fuddsoddi mewn 167 o ddyfeisiau taser newydd, rhan o £576,000 ar draws pedwar heddlu Cymru. Daw hyn yn rhan o gynnydd ledled y DU a fydd yn gweld £6.5 miliwn wedi'i rannu rhwng 41 o heddluoedd. Wrth siarad yn y gogledd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref:

Rwyf wedi ymrwymo i roi i heddluoedd ledled Cymru y grymoedd, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen arnynt i'w cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.

Dywedodd hefyd ei bod yn ymgynghori ar gyfamod heddlu Llywodraeth y DU, y galwyd amdano gan ffederasiwn yr heddlu, gan gydnabod gwasanaeth ac aberth swyddogion yr heddlu, ac a fyddai'n ymgorffori eu hawliau yn y gyfraith. Tynnwyd sylw at bethau eraill a wnaeth y Swyddfa Gartref yn ddiweddar, gan gynnwys ehangu pwerau stopio a chwilio, a chynlluniau i gynyddu'r ddedfryd uchaf ar gyfer ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys.

Ym mis Ionawr, ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin, i gael cyflwyniad defnyddiol ar eu swyddogaeth a'u gallu i atal a diogelu, gan ymdrin â materion fel troseddu difrifol a threfnedig, rheoli cyffuriau, llinellau cyffuriau, troseddau economaidd a seiber-droseddu. Sefydlwyd Titan yn 2009 fel cydweithrediad rhwng y chwe heddlu yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol sy'n croesi ffiniau siroedd yn y rhanbarth. Dywedwyd wrthyf fod tua 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan, a chadarnhaodd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn bresennol hefyd fod eu holl waith cynllunio ar gyfer argyfwng yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda'u partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac nad ydyn nhw'n cydweithio'n sylweddol gyda heddluoedd eraill yng Nghymru.

Mae Llafur a Phlaid Cymru, wrth gwrs, yn cynnig datganoli cyfiawnder a phlismona a'u rheoli o Gaerdydd, tra byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau plismona a rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau datganoledig. Byddem yn cefnogi'r mwyafrif distaw, diwyd sy'n ufudd i'r gyfraith; peidio â rhoi pleidlais i garcharorion a garcharwyd am droseddau rhywiol a hiliol, fel y mae Llafur a Phlaid Cymru yn ei gynnig. Diolch yn fawr.