Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 10 Mawrth 2020.
Mae'n dda gweld bod undod sylweddol o ran cefnogi ein maes awyr rhyngwladol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda clywed Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod rhai o'r newidiadau a wnaed i wneud y maes awyr yn hyfyw. Mae'n gwbl wir, pe na byddai Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau ym 2013, y byddai'r maes awyr wedi cau. Diwedd y stori.
Rhaid inni gydnabod bod tua 2,500 o swyddi'n cael eu cynnal yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yma yn ne Cymru. Yn yr amgylchiadau economaidd anodd yr ydym ni ynddynt ar hyn o bryd, mae hynny'n refeniw pwysig iawn. Gwyddom o'r drafodaeth a gawsom ni gydag uwch reolwyr gweithredol Maes Awyr Caerdydd ddydd Llun yr wythnos diwethaf eu bod eisoes yn ennill mwy o arian nag y mae'n ei gostio i redeg y maes awyr, ac mai dyna fu'r achos dros y tair blynedd diwethaf. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, oherwydd pe bai hynny ddim yn wir yna yn amlwg gallai'r sefyllfa fod yn un anodd iawn.
Gwyddom mai'r ffigur allweddol yw oddeutu 1.6/1.7 miliwn o deithwyr y flwyddyn. Felly, yn amlwg, rydym ni mewn sefyllfa beryglus ar hyn o bryd o ganlyniad i'r coronafeirws, sy'n amlwg yn amharu ar bopeth o ran economi'r byd. Ond mewn gwirionedd dim ond £36.2 miliwn, Nick Ramsay, y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei fenthyg o'r £38 miliwn posib—dyna a glywsom ni yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae angen inni roi'r benthyciad masnachol hwnnw o £36.2 miliwn yng nghyd-destun yr hyn y mae meysydd awyr rhanbarthol eraill yn ei wneud o ran dyled. Fe wnaethom ni ddysgu yr wythnos diwethaf fod gan Lerpwl ddyled o £102 miliwn; Newcastle £367 miliwn; Leeds Bradford £125 miliwn; a maes awyr Bryste £590 miliwn o ddyled.