Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiynau hynny. Fel y dywedais mewn ymateb i Siân Gwenllian, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi ymgysylltu â darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu’r boblogaeth ar y ddwy ochr i’r ffin. Ac rwy'n credu, fel rydych chi wedi cydnabod, fod y trafodaethau hynny bellach wedi dod i ben, oherwydd mae gan y gwasanaethau yn Lloegr fenter darparwyr cydweithredol, sy’n darparu gwasanaethau lleol yn Lloegr, ac maent eisiau gweld sut beth fydd hwnnw cyn iddynt gael unrhyw drafodaethau pellach gyda ni. Felly, dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond yn sicr rydym yn bwriadu i'r trafodaethau hynny ailddechrau eleni, ac yn sicr rydym yn mynd i edrych ar unrhyw beth y mae Betsi Cadwaladr ei hun yn ei gynnig.