Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 11 Mawrth 2020.
Wel, cyfeiriwyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac wrth gwrs, nododd eu hadroddiad 'Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru' yn 2017 nad oes gan ogledd Cymru y niferoedd o enedigaethau sydd eu hangen i gynnal uned mamau a babanod arbenigol, ac roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu poblogaethau o boptu’r ffin.
Derbyniodd y Gweinidog eu hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu, fel mater o frys, â GIG Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu'r poblogaethau ar y ddwy ochr i'r ffin, gan ddweud 'Rwyf wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ystyried opsiynau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr argymhelliad hwn.'
Wel, yn ôl fy nghyfrif i, roedd hynny 28-29 mis yn ôl, pan oedd yr argymhelliad yn un brys a dywedodd y Gweinidog ei fod wedi gofyn bryd hynny am i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Mae unig gyfeiriad gwefan Betsi Cadwaladr at iechyd meddwl amenedigol yn siarad yn unig am gael eu gwasanaeth iechyd meddwl mor agos at eu cartrefi ag sy'n ymarferol i'r fam a'r baban, ond nid yw'n cyfeirio at y ddarpariaeth iechyd meddwl allweddol honno. Y mis diwethaf yn unig—ac rwyf am orffen yn y fan hon—adroddodd BBC Cymru fod mamau yng Nghymru yn dioddef oherwydd diffyg uned cymorth iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol ddwy flynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru addo datblygu un. Pam rydym yn dal i aros i glywed, ac os yw trafodaethau â Lloegr wedi'u gohirio ar hyn o bryd fel rydych yn nodi—ac rwy'n siŵr eich bod yn nodi hynny—pam na all y model sy'n datblygu yn Lloegr barhau i ddatblygu ar sail drawsffiniol, fel yr argymhellwyd, yn hytrach nag ar sail unigol, gan gydnabod ffin a allai negyddu'r argymhellion yn yr adroddiad pwyllgor hwn?