Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Mawrth 2020.
I gefnogi cynllun gweithredu'r DU, sy'n adeiladu ar y gwaith parodrwydd presennol ar y pandemig ffliw, mae grŵp cynllunio ac ymateb sy'n cynnwys uwch swyddogion a rhanddeiliaid allanol allweddol wedi cael ei gynnull. Bydd yn darparu cydlyniad a chymorth strategol o fewn y Llywodraeth ac ar draws y gwasanaeth iechyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys sicrhau parodrwydd gwasanaeth damweiniau ac achosion brys y GIG ledled Cymru.