Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw. Clywsoch gan Rhun ap Iorwerth ychydig yn gynharach heddiw am y diffyg capasiti o fewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru ar gyfer ymdrin â symptomau tebyg i niwmonia a allai godi o coronafeirws—ystyriaeth arall efallai i'r rhai sy'n pendroni ynglŷn â dyfodol Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd, sydd hefyd yn gwasanaethu fy etholwyr i.
Ar wahân i logisteg symud pobl gyda'r symptomau hyn yn ddiogel trwy ysbyty sy'n llawn o bobl sâl ac oedrannus, pobl eiddil, ceir hefyd yr effaith ar gynllunio ariannol y bydd y byrddau iechyd lleol yn edrych arni. Cafwyd addewidion gan Lywodraeth y DU o arian i liniaru'r heriau sy'n wynebu'r DU gyfan. A ydych mewn sefyllfa i ddweud wrthym eto sut y gallai hwnnw wneud ei ffordd i Gymru? A ydym yn edrych ar Farneteiddio neu gost y pen neu golledion canlyniadol? A ydych wedi cael unrhyw wybodaeth am hynny i ni ar hyn o bryd? Diolch.