Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Mawrth 2020.
Gwnaf. Mae'r bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar gynlluniau i recriwtio'r person cywir i'r rôl hollbwysig hon. Er mai mater i'r bwrdd iechyd a'i gadeirydd fel y sefydliad cyflogi yw penderfyniadau ynglŷn â materion cyflogaeth, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen o hyd.