Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er ei fod mewn mesurau arbennig ers bron i bum mlynedd, mae'r problemau ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn parhau i siomi'r rhai sy'n dibynnu arno. Nid yw'r problemau ym mwrdd Betsi Cadwaladr wedi cael eu hailadrodd ym mhob bwrdd yng Nghymru, felly mae'n amlwg mai'r modd y caiff y bwrdd penodol hwnnw ei redeg sydd ar fai. Gall prif weithredwr newydd helpu, ond nid yw prif weithredwr yn gweithredu ar ei ben ei hun—mae'n rhan o fwrdd sy'n gwneud argymhellion ynglŷn â sut y dylai'r GIG yng ngogledd Cymru ddatblygu, mynd i'r afael â'i broblemau a phenderfynu ar ei flaenoriaethau.
Y llynedd, canfu pwyllgor trawsbleidiol yn y lle hwn fod y bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd annerbyniol o araf ar ddatrys ei fethiannau, ond chi sy'n gyfrifol yn y pen draw. Onid yw'n bryd adolygu sut y sefydlwyd y byrddau iechyd hyn? Er mwyn sicrhau bod triniaeth a gofal cleifion yn cael blaenoriaeth, onid yw'n bryd mynnu y dylai'r rhan fwyaf o'r aelodau ar unrhyw fwrdd iechyd ddod o gefndir o hyfforddiant clinigol?