Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:05, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, dywedodd Dr Andrew Goodall wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod yn siomedig iawn fod gan dri o saith bwrdd iechyd lleol Cymru ddiffyg o filiynau o bunnoedd. A ydych yn rhannu ei siom fod Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe yn rhagweld diffyg cyfunol o dros £92 miliwn ar gyfer 2019 i 2020? Rhagwelir y bydd bwrdd Betsi Cadwaladr £41 miliwn yn y coch; Hywel Dda heb fod ymhell ar ei ôl gyda diffyg o £35 miliwn. Bydd gan fy mwrdd iechyd i, Bae Abertawe, £16.3 miliwn o ddiffyg, ac mae hynny'n ddigon i gyflogi tua 465 o radiograffwyr. Weinidog, pam y gall rhai byrddau iechyd fantoli'r cyllidebau a bod eraill yn cael diffygion enfawr?