3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith gyfreithiol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod (CEDAW)? OAQ55206
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i archwilio opsiynau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae ymrwymiad cadarn i hyrwyddo'r hawliau hynny yn rhan o wead Llywodraeth Cymru ac mae'n dylanwadu'n uniongyrchol ar ein polisïau, ein deddfwriaeth a'n penderfyniadau.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y gallem fod yn wynebu sefyllfa, o gofio natur y Llywodraeth ar ben arall yr M4 a'r pwysau yno i ddadreoleiddio, a'r hyn y byddai llawer ohonom yn pryderu yn ei gylch o ran diffyg ymrwymiad posibl i gydraddoldeb, lle mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gydraddoldeb a Deddf Cydraddoldeb 2010—gallem ei gweld yn cael ei diwygio mewn ffordd na fyddai llawer ohonom yn ei hoffi? A yw'n cytuno â mi hefyd mai un llwybr y gallem ei ddewis yng Nghymru i ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer materion cydraddoldeb, ac yn enwedig yn yr achos hwn, ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fyddai ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru? Roeddwn yn falch iawn o'i glywed yn sôn am yr ymchwil, ac rwy'n meddwl tybed a all roi awgrym y prynhawn yma—gwn nad yw wedi'i gomisiynu'n uniongyrchol—pryd y bydd y gwaith ymchwil hwnnw wedi'i gwblhau a phryd y gallai fod yn briodol ei rannu â'r Cynulliad hwn a'r pwyllgorau priodol.
Yn sicr. Wel, mae'n cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, sydd i bob pwrpas, wrth gwrs, yn Fil hawliau rhyngwladol i fenywod ac yn ymgorffori'r egwyddorion cydraddoldeb y byddem yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo. A byddem yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i wanhau'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Rydym wedi ceisio sicrhau, wrth edrych ar gwestiynau'n ymwneud â chonfensiynau, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfannol. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod ei hun, a'r ystyriaethau a ddeilliodd o'r archwiliad ar ei gydymffurfiad ym mis Chwefror y llynedd—lle roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gysylltiedig er mwyn gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru a materion Cymreig yn cael eu cynrychioli a'u codi'n uniongyrchol yn ystod y broses archwilio honno—mae'r ystyriaethau hynny wedi cyfrannu'n uniongyrchol at yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae'r casgliadau interim wedi'u hystyried gan y Cabinet. Ond mewn perthynas â'r gwaith ymchwil y mae'n cyfeirio ato, deallaf y bwriedir i hynny fod wedi dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon, fel bod ei gasgliadau ar gael yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.