Backto60

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:29, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. O gofio bod gennym Lywodraeth newydd yn awr ar ben arall yr M4, a bod y Llywodraeth honno'n sôn llawer am godi lefelau a thegwch, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol, gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldebau efallai, yn ystyried cyflwyno rhagor o sylwadau i'r Gweinidog priodol yn San Steffan ac edrych eto o bosibl i weld a oes unrhyw gyfraniad y gallem ei wneud, drwy gyfrwng tystiolaeth efallai, i'r apêl y mae'n sôn amdani? Gyda Gweinidog newydd ar waith, a chyda'r pwyslais newydd hwn ar degwch, ac ymagwedd ychydig yn llai llym tuag at wario, efallai y gallem gael gwrandawiad gwell. Nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom yn obeithiol, ond rwy'n siŵr y byddai'r menywod yr effeithir arnynt yma yng Nghymru yn ddiolchgar iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn barod i roi cynnig arall arni.

Gwn ei fod yn cytuno â mi fod hwn yn anghyfiawnder difrifol iawn, fod y menywod hyn wedi cael eu trin yn wael, a gwyddom eu bod wedi'u trin yn wael, oherwydd bod Canghellor y Trysorlys ar y pryd yn credu y gallai wneud hynny heb gael ei ddwyn i gyfrif. Credai na fyddent yn ymladd yn ôl. Gallai hwn fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru, ar ran y Cynulliad cyfan, wneud sylwadau pellach ar ran ein cyd-ddinasyddion sydd wedi cael eu trin yn y modd mwyaf ffiaidd.