Backto60

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:30, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, nid yw'r Aelod yn obeithiol, ac nid ydym ninnau ar y meinciau hyn chwaith, fel y mae'n cydnabod yn hael iawn yn ei chwestiwn. Fel y gŵyr o'n dadleuon blaenorol yn y Siambr mewn perthynas â hyn, rydym wedi ceisio achub ar bob cyfle i nodi ein safbwynt i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru, ac rydym wedi derbyn ymatebion yn aml, ac wedi eu cyhoeddi. Bydd hithau, rwy'n siŵr, yn cytuno â’n hasesiad o annigonolrwydd llwyr yr ymatebion hynny wrth fynd i'r afael â'r anghyfiawnder rydym yn ceisio cynrychioli menywod yng Nghymru arno mewn perthynas â’r mater hwnnw.

Rwyf eisoes wedi myfyrio ar sut y gallwn barhau i wneud sylwadau mewn perthynas â'r cam newydd hwn yn yr achosion cyfreithiol, a byddaf yn trafod hynny gyda'r Dirprwy Weinidog. Dylem fod yn gwbl glir fod y menywod sy'n wynebu'r anghyfiawnder hwn wedi wynebu nifer o anghyfiawnderau eraill yn aml iawn yn ystod eu bywyd gwaith, a dylai Llywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i sicrhau, yn hyn o beth o leiaf, ei bod ar ochr y menywod sydd wedi rhoi cymaint i gymdeithas ac wedi darganfod, yn ddiweddarach yn eu bywydau, nad yw'r Llywodraeth ar eu hochr hwy.