Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 11 Mawrth 2020.
Gwnaf, wrth gwrs. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Tata Steel gyhoeddiad ddoe. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau mewn erthyglau newyddion ar gwestiynau a ofynnwyd i staff a memo mewnol gan Tata Steel. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel ynglŷn â sut y bydd eu rhaglen drawsnewid yn effeithio ar eu gweithrediadau yng Nghymru, ac yn wir, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor bwysig yw cadw at eu hymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol a cholli cyn lleied o swyddi â phosibl.