Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, a diolch iddo am gywiro fy nghwestiwn hefyd. Ond yn amlwg, mae gennym farn gymysg ynglŷn â’r newyddion a ddaeth i’r amlwg ddoe, ni waeth pa ffordd y daeth i’r amlwg. Mae'r 1,000 o swyddi y rhagwelwyd y byddent yn cael eu colli yn y DU wedi gostwng i 500, felly mae hynny’n newyddion da. Ond wrth gwrs, bydd 500 o swyddi yn cael eu colli o hyd, p'un a ydynt yn ddiswyddiadau gorfodol ai peidio, ac rydym wedi cael gwybod na fyddant yn orfodol; maent yn dal i fod yn swyddi a gollir a chyfle i bobl ifanc ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant dur.
Nid oes gennym unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â ble fydd y swyddi hynny’n cael eu colli, na pha weithgarwch. Credaf ei bod yn bwysig inni gael y manylion hynny yn awr, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei bod yn bwysig eu bod yn parchu hynny ac yn parchu'r gweithwyr dur, a'u bod yn rhoi'r manylion hynny iddynt. Yn y cyhoeddiad gwreiddiol, dywedasant y byddem yn gwybod pa weithgarwch erbyn mis Chwefror. Mae hi bellach yn fis Mawrth, a'r unig beth a wyddom yw bod nifer y swyddi wedi gostwng, ond nid oes unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â pha weithgarwch na ble mae'r gweithgarwch wedi'i leoli, ac mae hynny'n bwysig.
Mae gweithwyr dur wedi dangos ymroddiad parhaus i Tata, gan gynnal a chryfhau'r diwydiant dur drwy gyfnodau anodd. Maent wedi wynebu heriau ers y cyhoeddiad yn 2017, ac mae heriau byd-eang i’w cael hefyd. Felly, mae'n bwysig fod Tata yn dangos yr un parch iddynt hwythau drwy roi'r manylion hynny iddynt.
Cytunaf hefyd nad yw hyn yn cael gwared ar yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU, a nododd prif swyddog gweithredol Tata Ewrop, Henrik Adam, fod heriau ariannol difrifol yn dal i wynebu’r diwydiant. Felly, a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gallwn gefnogi buddsoddiad yn y sector dur? Ac a wnewch chi alw eto—gwn eich bod wedi galw arnynt eisoes—ar Lywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i gynnal cyfarfod o'r cyngor dur i edrych ar sut y gallwn ehangu'r diwydiant dur?
Maent newydd werthu British Steel yn Scunthorpe i gwmni o Tsieina, gydag ymrwymiad i fuddsoddi £1.2 biliwn dros y blynyddoedd. Mae Tata wedi nodi rhywfaint o fuddsoddiad, ond mae angen y lefel honno o fuddsoddiad i sicrhau bod gennym sefyllfa lle gall Tata ym Mhort Talbot a Tata yng Nghymru wynebu'r heriau byd-eang sydd ar y ffordd. Felly, a wnewch chi fynd â'r neges honno yn ôl i Lundain, er mwyn sicrhau bod hwn yn fusnes ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mae'n fusnes modern, nid yw'n hen fusnes; mae'n fusnes modern. Mae ganddo ddyfodol cryf, ac mae angen diwydiant dur cryf ar economi'r DU. Mae angen inni sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu’n gadarn ac yn glir yn Llundain.