5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
1. Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe gan Tata Steel ynglŷn â nifer y swyddi a fydd yn cael eu colli yn y DU, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff y colledion hyn yng Nghymru, ac yn arbennig ar y ffatri ym Mhort Talbot? 404
Gwnaf, wrth gwrs. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Tata Steel gyhoeddiad ddoe. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau mewn erthyglau newyddion ar gwestiynau a ofynnwyd i staff a memo mewnol gan Tata Steel. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel ynglŷn â sut y bydd eu rhaglen drawsnewid yn effeithio ar eu gweithrediadau yng Nghymru, ac yn wir, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor bwysig yw cadw at eu hymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol a cholli cyn lleied o swyddi â phosibl.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, a diolch iddo am gywiro fy nghwestiwn hefyd. Ond yn amlwg, mae gennym farn gymysg ynglŷn â’r newyddion a ddaeth i’r amlwg ddoe, ni waeth pa ffordd y daeth i’r amlwg. Mae'r 1,000 o swyddi y rhagwelwyd y byddent yn cael eu colli yn y DU wedi gostwng i 500, felly mae hynny’n newyddion da. Ond wrth gwrs, bydd 500 o swyddi yn cael eu colli o hyd, p'un a ydynt yn ddiswyddiadau gorfodol ai peidio, ac rydym wedi cael gwybod na fyddant yn orfodol; maent yn dal i fod yn swyddi a gollir a chyfle i bobl ifanc ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant dur.
Nid oes gennym unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â ble fydd y swyddi hynny’n cael eu colli, na pha weithgarwch. Credaf ei bod yn bwysig inni gael y manylion hynny yn awr, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei bod yn bwysig eu bod yn parchu hynny ac yn parchu'r gweithwyr dur, a'u bod yn rhoi'r manylion hynny iddynt. Yn y cyhoeddiad gwreiddiol, dywedasant y byddem yn gwybod pa weithgarwch erbyn mis Chwefror. Mae hi bellach yn fis Mawrth, a'r unig beth a wyddom yw bod nifer y swyddi wedi gostwng, ond nid oes unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â pha weithgarwch na ble mae'r gweithgarwch wedi'i leoli, ac mae hynny'n bwysig.
Mae gweithwyr dur wedi dangos ymroddiad parhaus i Tata, gan gynnal a chryfhau'r diwydiant dur drwy gyfnodau anodd. Maent wedi wynebu heriau ers y cyhoeddiad yn 2017, ac mae heriau byd-eang i’w cael hefyd. Felly, mae'n bwysig fod Tata yn dangos yr un parch iddynt hwythau drwy roi'r manylion hynny iddynt.
Cytunaf hefyd nad yw hyn yn cael gwared ar yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU, a nododd prif swyddog gweithredol Tata Ewrop, Henrik Adam, fod heriau ariannol difrifol yn dal i wynebu’r diwydiant. Felly, a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gallwn gefnogi buddsoddiad yn y sector dur? Ac a wnewch chi alw eto—gwn eich bod wedi galw arnynt eisoes—ar Lywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i gynnal cyfarfod o'r cyngor dur i edrych ar sut y gallwn ehangu'r diwydiant dur?
Maent newydd werthu British Steel yn Scunthorpe i gwmni o Tsieina, gydag ymrwymiad i fuddsoddi £1.2 biliwn dros y blynyddoedd. Mae Tata wedi nodi rhywfaint o fuddsoddiad, ond mae angen y lefel honno o fuddsoddiad i sicrhau bod gennym sefyllfa lle gall Tata ym Mhort Talbot a Tata yng Nghymru wynebu'r heriau byd-eang sydd ar y ffordd. Felly, a wnewch chi fynd â'r neges honno yn ôl i Lundain, er mwyn sicrhau bod hwn yn fusnes ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mae'n fusnes modern, nid yw'n hen fusnes; mae'n fusnes modern. Mae ganddo ddyfodol cryf, ac mae angen diwydiant dur cryf ar economi'r DU. Mae angen inni sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu’n gadarn ac yn glir yn Llundain.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'r pwyntiau a wnaeth, sy'n gwbl gywir? Ar ôl i mi alw dro ar ôl tro am gynnull cyfarfod bord gron ar ddur y DU, cafodd un ei gynnull ar 5 Chwefror. Codwyd dau fater pwysig yn y cyfarfod bord gron hwnnw: roedd un yn ymwneud â chaffael a'r angen i sicrhau ein bod yn defnyddio dur a gynhyrchir yn y DU ar brosiectau seilwaith y DU, ac roedd yr ail yn ymwneud â chost anhygoel o uchel ynni a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi gallu gwirio’r cyhoeddiadau diweddaraf fel rhan o'r gyllideb, ond roedd y neges yn hollol glir yn y cyfarfod bord gron hwnnw fod yn rhaid i'r Llywodraeth achub ar y cyfle yn y gyllideb hon i gyhoeddi mesurau i liniaru costau uchel ac anwadal trydan. Mae hynny'n gwbl hanfodol os yw'r sector am drosglwyddo i sefyllfa garbon isel yn y blynyddoedd i ddod, a bydd y broses honno’n cael ei chynorthwyo, wrth gwrs, gan gyllid datblygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae llawer wedi'i ddweud am gronfeydd fel y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol a'r gronfa dur glân, ond credaf fod angen inni gofio maint y cronfeydd hyn o gymharu â chronfeydd sy'n cael eu cyflwyno mewn mannau eraill. Mae'n gyfanswm o oddeutu £500 miliwn dros sawl blwyddyn ar gyfer y sector cyfan yn y DU, ac yn wir, sectorau eraill lle ceir gweithrediadau ynni-ddwys—£500 miliwn dros sawl blwyddyn. Cymharwch hynny â'r £5 biliwn y mae Llywodraeth yr Iseldiroedd yn ei fuddsoddi bob blwyddyn ar ddatgarboneiddio diwydiant, ac mae hynny'n dangos pam fod gwir angen i Lywodraeth y DU gymryd camau mwy uchelgeisiol yn hyn o beth, gwrando ar y sector dur a rhoi newid ar waith yn ôl yr angen.
Nawr, mae Dai Rees yn llygad ei le, er y byddai'n amhriodol trafod memo sydd wedi’i ddatgelu'n answyddogol, ei bod yn galonogol ein bod yn gweld symudiad i'r cyfeiriad cywir o ran Tata a’r gweithfeydd yng Nghymru. Gallaf roi gwybod i’r Aelodau fy mod i, ynghyd â’r Prif Weinidog, wedi cael cyfarfod cynhyrchiol tu hwnt gyda Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe ychydig wythnosau yn ôl, lle buom yn trafod nifer o faterion, gan gynnwys eu cynllun trawsnewid. Dywedodd y cwmni'n glir y byddent yn rhoi diweddariad ffurfiol i mi ar yr effaith ar y safleoedd yng Nghymru yn unol â’u cynlluniau trawsnewid cyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno ar gael. Maent yn dal i ymchwilio i weld pa swyddi sy'n debygol o gael eu colli, ond rwy'n addo rhoi diweddariad i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf wedi cael yr hysbysiad ffurfiol hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar iawn i David Rees am ofyn y cwestiwn hwn, ac i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n deall yn iawn nad yw'r Gweinidog yn awyddus i gael ei dynnu i mewn i drafodaethau manwl ynglŷn â memo yr ymddengys ei fod wedi’i ddatgelu'n answyddogol, ond buaswn yn cytuno â'r hyn y mae ef a David Rees wedi'i ddweud ynglŷn â bod hyn yn edrych fel symudiad i’r cyfeiriad cywir a bod hynny'n galonogol.
Buaswn hefyd yn cytuno’n gryf gyda’r Gweinidog fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y gwaith o gefnogi dyfodol hirdymor y diwydiant dur, a datgarboneiddio yn enwedig, yn druenus o annigonol. Onid yw'n wir mai un o’r cyfleoedd a gynigiwyd i ni gan Brexit, o ran rhai o’r diwydiannau allweddol na ellid eu cefnogi oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, oedd y gellid eu cefnogi’n fwy cadarn bellach o bosibl? Tybed a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi'r pwynt hwnnw gyda Gweinidogion y DU: eu bod, mewn ffordd, wedi bod yn cuddio y tu ôl i broses y cymorth gwladwriaethol gan ddweud, 'Ni allwn fuddsoddi. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn'—nid wyf yn siŵr a fyddai'r Gweinidog na minnau wedi derbyn yr esgusodion hynny’n gyfan gwbl. Ond bellach, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle rydym yn ymbellhau oddi wrth hynny, ac o ran buddsoddiad tymor canolig, efallai ein bod mewn sefyllfa lle gellid buddsoddi mwy mewn ffyrdd nad oedd ar gael inni o'r blaen o bosibl.
Mae'r pwyslais yma'n amlwg ar nifer enfawr y swyddi ym Mhort Talbot a’u pwysigrwydd aruthrol i'r gymuned honno, ond hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog hefyd at y 649 o swyddi yn Nhrostre yn Llanelli, yn fy rhanbarth i. Nawr, nid yw hynny'n gymaint o swyddi, ond o ran pwysigrwydd y swyddi hynny i'r gymuned honno ac ansawdd y gwaith, sefydlogrwydd y gwaith, byddem yn amlwg yn bryderus iawn yng nghanolbarth a gorllewin Cymru pe bai rhai o'r swyddi a dargedir i'w colli ar y safle hwnnw, neu pe bai llawer iawn ohonynt yn cael eu targedu yn Nhrostre. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, am ei bod yn broses eithaf arbenigol, maent yn gymharol saff, ond a wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw—ac rwy'n ddiolchgar iddo am ddweud wrthym y bydd yn rhoi gwybod i'r Siambr hon cyn gynted ag y bydd yn clywed mwy gan Tata—i godi achos penodol y gwaith yn Nhrostre a'r gweithwyr yno?
Oherwydd yn union fel y dywedodd David Rees, mae'r rhain yn bobl sydd wedi gweithio'n aruthrol o galed; maent wedi bod yn barod i wneud newidiadau; maent wedi dangos llawer o deyrngarwch ac ymroddiad i'r cwmni, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y teyrngarwch hwnnw a'r hyblygrwydd hwnnw'n haeddu cael eu gwobrwyo.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a'i chyfraniad y prynhawn yma? Rwy'n addo codi pryderon ynglŷn â’r swyddi y gellid eu colli yn Nhrostre a phob safle dur arall yn nheulu Tata yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod y cynlluniau trawsnewid yn ceisio clustnodi swyddi coler wen, yn bennaf, i’w torri, yn hytrach na swyddi coler las. Nid yw'r nifer, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o weithwyr coler wen yn Nhrostre yn sylweddol iawn, er bod llawer o swyddi ystafell gefn a allai gael eu heffeithio. Felly, byddaf yn brwydro dros Drostre a dros gadw cynifer o swyddi â phosibl yno.
Buaswn yn cytuno â'r Aelod hefyd fod yr amddiffyniad cymorth gwladwriaethol yn amddiffyniad gwan bellach, ac mae hefyd yn amddiffyniad gwan, fel y buom yn trafod ddoe, o ran y gefnogaeth y gellid ei chynnig i Faes Awyr Caerdydd a llawer o sectorau eraill yn yr economi. Mae dur yn strategol bwysig mewn sawl ffordd i'r DU. Ni fyddai unrhyw genedl arall, hyd y gwn i, yn barod i ganiatáu i gynhyrchu dur gael ei golli. Yma yn y DU, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU weithio mewn partneriaeth gyda ni. Rydym yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n benderfynol o weithio gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Hoffwn weld profiad ac arbenigedd yn cael eu rhannu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl i'r sector dur a llawer o feysydd eraill yn ein heconomi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A dylai'r gwaith hwnnw ddechrau heddiw gydag ymdrech gydunol gan Lywodraeth y DU, drwy'r gyllideb, i fynd i'r afael â phrisiau uchel ynni.
Diolch, Weinidog. Credaf fod y ffaith—efallai mai memo wedi'i ddatgelu'n answyddogol yw hwn, ond yn amlwg, mae’r Prif Weinidog a chithau wedi bod yn cael sgyrsiau gyda Tata. Mae arwydd yma, onid oes, fod rhywfaint o fanylder wedi'i drafod yma, a bod yn rhaid cael rhywfaint o sicrwydd gan Tata bellach ynglŷn â pha rannau o'u gweithrediadau y maent yn eu hystyried fel y rhai mwyaf bregus a phwy sy'n debygol o gael eu heffeithio ganddynt. Felly, yn fy marn i, gorau po gyntaf y cawn y newyddion hwnnw, boed yn newyddion da neu ddrwg, gan y credaf fod angen ei rannu â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol a cholegau fel y gallant ddechrau'r gwaith lliniaru, lle byddai'r cyfle i golegau a'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol allu cynllunio, os ydym yn mynd i gael llif arall o bobl fedrus yn taro ein ffigurau diweithdra, yn ddefnyddiol dros ben. Ac wrth gwrs, nid ydym yn sôn am weithwyr ym Mhort Talbot yn unig, ond eu cadwyni cyflenwi hefyd. Felly, fy nghwestiwn yw: beth ydych chi'n debygol o’i ddweud wrthynt, a phryd?
Rwy’n cytuno â chi nad yw'r materion sylfaenol wedi diflannu mewn gwirionedd. Rydych yn sôn am gostau uchel ynni; nid wyf am anghytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ond bob tro y byddwch yn sôn am gostau ynni, rwy'n mynd i sôn am ardrethi busnes, sy'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef. Felly, mewn perthynas â hynny, tybed a allwch ddweud wrthyf—efallai ei bod braidd yn gynnar i ateb y cwestiwn hwn, a bod yn deg—ond a fydd cyhoeddiad Banc Lloegr heddiw ynglŷn â gostwng cyfraddau llog yn helpu Tata mewn unrhyw ffordd i reoli eu llif arian, o leiaf, os nad unrhyw beth arall.
Ac yn olaf, mae'n rhaid i rywun sôn am y coronafeirws yn y cyd-destun hwn. Ac fe wnaethom ei grybwyll, neu fe sonioch chi amdano, yn eich ymateb i gwestiwn a godais yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar ddur, ynglŷn ag a oedd yna amgylchiadau annisgwyl a allai effeithio o'r newydd ar y darlun dur yn fyd-eang—yn amlwg, mae coronafeirws yn un o'r rheini—a pha gamau y gallwn eu cymryd o ran y sgyrsiau cynnar gyda Tata i beidio â defnyddio'r feirws fel esgus ychwanegol i geisio cau rhannau o'r diwydiant sydd wedi'u lleoli yn y DU yn gyffredinol, ond yn arbennig yng Nghymru? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a'r pwyntiau a wnaeth? Unwaith eto, maent yn bwyntiau pwysig iawn, ac rwy’n cytuno â phopeth a ddywedodd, bron â bod. Yn fwyaf arbennig, hoffwn sôn am y coronafeirws. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol mewn perthynas â'r effaith y gallai coronafeirws ei chael ar yr economi, ac yn enwedig yn y rhannau o'r economi lle rydym yn dibynnu ar allu symud pobl i raddau go helaeth neu ddibyniaeth uchel ar nwyddau o diriogaethau lle mae gweithgarwch economaidd naill ai’n arafu neu’n dod i stop o ganlyniad i'r feirws.
Mae'n gwbl amlwg i bawb y gallai'r difrod i'r economi, yn y senario waethaf, fod yn eithaf sylweddol, ac felly, bydd angen ymdrech gydunol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl yn gallu goresgyn cyfnod dros dro o anhawster. Nid wyf wedi derbyn y manylion llawn eto ynglŷn â’r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gyhoeddi heddiw o ran cefnogaeth i fusnesau ymdopi â'r coronafeirws, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn becyn digonol i alluogi nid yn unig cwmnïau yn y sector dur ond ym mhob rhan o’r economi i fynd i'r afael â her coronafeirws dros y misoedd i ddod.
Credaf ei bod yn rhy gynnar, yn ôl pob tebyg, i nodi buddion posibl gostwng y gyfradd llog gan Fanc Lloegr o ran sut y gallai hynny gynorthwyo gyda materion llif arian. Fodd bynnag, mae Banc Datblygu Cymru, banciau’r stryd fawr y byddaf yn siarad â hwy eisoes yn dweud y byddant yn barod i gynorthwyo llawer o fusnesau, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr.
Ac rwy'n ailadrodd y pwynt y byddaf yn rhannu'r manylion hynny gyda'r Aelodau cyn gynted ag y bydd unrhyw beth ffurfiol ar gael imi gan Tata. Ac mae Suzy Davies yn llygad ei lle, mae angen i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol wybod cyn gynted â phosibl, fel y gellir gwneud cynlluniau i ddarparu ar gyfer y rheini a allai fod heb waith i sicrhau eu bod yn cael y cymorth iawn i ddychwelyd i gyflogaeth.
Diolch. Yn olaf, John Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am eich ymateb i’r cwestiynau, ac yn arbennig, am nodi y byddwch yn cadw holl safleoedd Tata yng Nghymru mewn cof yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU a chyda Tata yn gyffredinol, oherwydd yn amlwg, i mi, mae safle Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd yn dal i fod yn bwysig tu hwnt gan fod cannoedd o swyddi yno ac mae’n bwysig iawn i gyflenwyr a chontractwyr. Wrth gwrs, mae gennym sefyllfa benodol gyda safle Orb, sy'n segur ar hyn o bryd, ond yn amlwg, rydym yn dal i obeithio'n fawr y bydd y safle hwnnw'n ailddechrau gweithredu ac yn chwarae rhan yn y diwydiant dur yng Nghasnewydd a Chymru.
Felly, o ran y darlun cyffredinol, Weinidog, buaswn yn croesawu eich sicrwydd, gan ychwanegu at yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma, y byddwch yn cadw diwydiant dur Casnewydd mewn cof wrth i chi gael sgyrsiau a thrafodaethau a sicrhau bod gan ddur ddyfodol cadarn iawn yng Nghymru.
Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod wedi cadw dur Casnewydd mewn cof wrth siarad â Tata, wrth drafod y materion hyn gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Bydd hynny'n parhau. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod cymaint o swyddi â phosibl yn y sector dur yn ardal Casnewydd yn cael eu cadw, ac y gallwn adeiladu ar gryfder y sector yng Nghasnewydd.
Cafwyd newyddion cadarnhaol yn ddiweddar o ran sector dur Cymru, a daeth hynny gyda chyhoeddi oddeutu 100 o swyddi newydd yn y sector. Roeddwn yn credu bod hynny'n arbennig o bwysig ar hyn o bryd, o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan nifer o ffactorau, gan gynnwys prisiau ynni, ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit, ac wrth gwrs, y coronafeirws. Rhoddodd hynny hwb calonogol iawn i'r sector yn ne Cymru yn enwedig, lle gwnaed y cyhoeddiad, ond hefyd i’r diwydiant dur ledled y DU.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.