Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 11 Mawrth 2020.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'r pwyntiau a wnaeth, sy'n gwbl gywir? Ar ôl i mi alw dro ar ôl tro am gynnull cyfarfod bord gron ar ddur y DU, cafodd un ei gynnull ar 5 Chwefror. Codwyd dau fater pwysig yn y cyfarfod bord gron hwnnw: roedd un yn ymwneud â chaffael a'r angen i sicrhau ein bod yn defnyddio dur a gynhyrchir yn y DU ar brosiectau seilwaith y DU, ac roedd yr ail yn ymwneud â chost anhygoel o uchel ynni a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi gallu gwirio’r cyhoeddiadau diweddaraf fel rhan o'r gyllideb, ond roedd y neges yn hollol glir yn y cyfarfod bord gron hwnnw fod yn rhaid i'r Llywodraeth achub ar y cyfle yn y gyllideb hon i gyhoeddi mesurau i liniaru costau uchel ac anwadal trydan. Mae hynny'n gwbl hanfodol os yw'r sector am drosglwyddo i sefyllfa garbon isel yn y blynyddoedd i ddod, a bydd y broses honno’n cael ei chynorthwyo, wrth gwrs, gan gyllid datblygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae llawer wedi'i ddweud am gronfeydd fel y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol a'r gronfa dur glân, ond credaf fod angen inni gofio maint y cronfeydd hyn o gymharu â chronfeydd sy'n cael eu cyflwyno mewn mannau eraill. Mae'n gyfanswm o oddeutu £500 miliwn dros sawl blwyddyn ar gyfer y sector cyfan yn y DU, ac yn wir, sectorau eraill lle ceir gweithrediadau ynni-ddwys—£500 miliwn dros sawl blwyddyn. Cymharwch hynny â'r £5 biliwn y mae Llywodraeth yr Iseldiroedd yn ei fuddsoddi bob blwyddyn ar ddatgarboneiddio diwydiant, ac mae hynny'n dangos pam fod gwir angen i Lywodraeth y DU gymryd camau mwy uchelgeisiol yn hyn o beth, gwrando ar y sector dur a rhoi newid ar waith yn ôl yr angen.
Nawr, mae Dai Rees yn llygad ei le, er y byddai'n amhriodol trafod memo sydd wedi’i ddatgelu'n answyddogol, ei bod yn galonogol ein bod yn gweld symudiad i'r cyfeiriad cywir o ran Tata a’r gweithfeydd yng Nghymru. Gallaf roi gwybod i’r Aelodau fy mod i, ynghyd â’r Prif Weinidog, wedi cael cyfarfod cynhyrchiol tu hwnt gyda Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe ychydig wythnosau yn ôl, lle buom yn trafod nifer o faterion, gan gynnwys eu cynllun trawsnewid. Dywedodd y cwmni'n glir y byddent yn rhoi diweddariad ffurfiol i mi ar yr effaith ar y safleoedd yng Nghymru yn unol â’u cynlluniau trawsnewid cyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno ar gael. Maent yn dal i ymchwilio i weld pa swyddi sy'n debygol o gael eu colli, ond rwy'n addo rhoi diweddariad i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf wedi cael yr hysbysiad ffurfiol hwnnw.