– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 17 Mawrth 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 10, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig y cynnig. Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd rhai yn cofio inni drafod Bil Gemau Cymanwlad Birmingham mewn Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref y flwyddyn ddiwethaf, ac inni basio'r cynnig yma yn y Senedd. Ond roedd rhaid inni ailgyflwyno'r Bil i Senedd San Steffan ar 7 Ionawr am na wnaeth orffen ei daith seneddol cyn i'r Senedd honno gael ei diddymu ar 6 Tachwedd, a hynny er mwyn cynnal yr etholiad cyffredinol. Dwi felly wedi cytuno i hyrwyddo cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn eto heddiw ar ran y Dirprwy Weinidog.
Mae'r Bil sy'n cael ei gyflwyno heddiw yn union fel yr oedd ef, er bod rhai newidiadau technegol neu ddrafftio wedi'u cynnwys. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu gwaith yn ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol y Bil, a chydnabod eu bod wedi penderfynu peidio â chyflwyno adroddiadau ychwanegol ar y Bil fel y cafodd ei ailgyflwyno.
Fel y gwyddoch chi, cafodd Birmingham yr hawl i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2022 ar 21 Rhagfyr 2017. Er mwyn eu cynnal yn llwyddiannus, mae'n rhaid i Senedd San Steffan basio Bil Gemau Cymanwlad Birmingham, sy'n ymdrin â'r gemau a dibenion cysylltiedig, ac maent am wneud trosedd dros dro am dowtio tocynnau i'r gemau. Barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw bod y ddarpariaeth yn y Bil am docynnau i ddod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Diben yr elfen hon yw, yn gyntaf, i ddiogelu brand ac enw da y gemau; yn ail, i sicrhau bod tocynnau'n fforddiadwy ac ar gael i bawb; ac, yn drydydd, i atal troseddau fel gwyngalchu arian.
Mae angen cydsyniad Senedd Cymru ar gyfer y rhannau hynny yn y Bil, gan eu bod nhw'n ymwneud â hyrwyddo twristiaeth ac economi Cymru, materion sydd gyda ni gymhwysedd deddfwriaethol drostyn nhw. Er bod diogelu'r cwsmer yn fater cadw o dan Atodlen 7A Deddf Llywodraeth Cymru 2006, pwrpas y darpariaethau hyn yw diogelu brand ac enw da meysydd chwaraeon yng Nghymru, sydd, yn ei dro, yn helpu i hyrwyddo twristiaeth ac economi Cymru—dau bwnc sydd yn ddatganoledig. Hefyd, gallai'r darpariaethau hyn yn y Bil ddod o dan gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan eu bod yn ymwneud â swyddogaethau is-ddeddfau awdurdodau lleol. Gallai atal rhwystr neu niwsans sy'n cael eu hachosi gan dowtwyr tocynnau ddod o dan bwerau rheoli a llywodraethau da adran 235 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gallai'r Senedd ddeddfu ar y materion hyn, fel y gallai, o bosib, ddeddfu ar bwerau awdurdodau lleol i greu is-ddeddfau i atal towtio tocynnau sy'n achosi niwsans yn eu hardal.
Felly, barn y Llywodraeth yw ei bod yn briodol delio â'r darpariaethau hyn ym Mil y Deyrnas Unedig. Dyna'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur i roi'r darpariaethau ar waith yng Nghymru. Mae'n ymarferol hefyd o ran amser a chydlyniant, yn arbennig o dan yr amgylchiadau rŷn ni'n gweithio gyda coronafeirws yn digwydd. Felly, byddai delio â throsedd towtio tocynnau ym Mil y Deyrnas Unedig yn golygu y caiff ddod i rym yng Nghymru yr un pryd ag yn Lloegr. Ac felly, dwi'n cyflwyno'r cynnig ac yn gofyn i'r Cynulliad ei gefnogi.
Diolch. Unwaith eto, nid oes siaradwyr gennyf, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.