– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 17 Mawrth 2020.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig.
Rwy'n falch o agor y ddadl y prynhawn yma ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Mae'r Bil yn deillio o nifer fawr o gyfraniadau, o ystod eang o ffynonellau. Mae'r Bil wedi'i lywio gan dros 330 o ymatebion i'n hymgynghoriad yn 2017, a oedd yn sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd trwy gydol y broses honno, ac wrth graffu ar y Bil ei hun, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r meddylfryd a'r dull gweithredu. Fel bob amser, mae'r broses graffu wedi darparu golwg fanwl i ni, ac wedi miniogi ein cynigion cychwynnol. A hoffwn dalu teyrnged i waith aelodau a swyddogion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrth arwain y gwaith hwn. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi archwilio'r darpariaethau'n drylwyr, ac rwy'n ddiolchgar am eu gwaith nhw yn y maes hwn hefyd.
Hoffwn gydnabod ymdrechion grwpiau rhanddeiliaid, yn enwedig bwrdd y cynghorau iechyd cymuned, Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym yn ymrwymedig i barhau â'r gwaith hwn gyda'n gilydd, gan ymgysylltu â phartneriaid allweddol eraill, gan gynnwys dinasyddion a chynrychiolwyr proffesiynol, wrth i ni symud i'r cam gweithredu, yn amodol ar y Bil yn cael ei basio heddiw, ac wrth gwrs ar Gydsyniad Brenhinol yn cael ei roi. Os caiff ei basio heddiw, ac yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, bwriad y Llywodraeth yw y bydd y Bil yn cael ei weithredu o fewn dwy flynedd. Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran sbarduno ansawdd a gwelliant mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r Bil heddiw.
Hoffwn atgoffa pawb fod y Bil hwn wedi symud yn gyflym, a hoffwn gofnodi fy niolch i holl glercod y pwyllgorau, i'r swyddogion ar ochr Llywodraeth Cymru. A hoffwn dalu teyrnged arbennig i'n pennaeth ymchwil, Georgina Webb, am yr holl waith a wnaeth hi ar y Bil hwn.
Ac am Fil. Dechreuodd â llawer o addewid: i ysgogi dyletswydd a didwylledd drwy ein gwasanaethau gofal iechyd. Roedd yn Fil llawn cyfle, lle y gallem ni mewn gwirionedd edrych ar ein gwasanaethau gofal iechyd a dweud, 'Dyma'r amser i chi wir ddeall bod ansawdd yn sbardun allweddol yn y GIG, bod didwylledd yn hawl allweddol yn y GIG'. Ac, wrth gwrs, roedd yn gyfle i warchod a diogelu llais pobl Cymru, eu cyfle i gyflwyno eu barn er mwyn llunio a llywio'r cyfeiriad teithio.
Ond, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae'n gyfle sydd wedi cael ei wastraffu. Ac ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn noddi—neu, mae'n ddrwg gen i, yn cefnogi—y Bil hwn. Pam? Oherwydd ei fod yn Fil nad yw mewn gwirionedd wedi gwneud yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud. Cwnsler Cyffredinol, pan rwy'n edrych ar y ddyletswydd ansawdd, rwy'n credu bod rhan o'r Bil hwn yn dal i fod yn hynod wan o ran manylder. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod proses Cyfnod 3, rwyf yn dal i bryderu bod darpariaethau'r Bil ar ddyletswydd ansawdd yn rhy fras—mae perygl y bydd yn dod yn nod yn hytrach nag yn ddyletswydd. Heb ddulliau penodol i fyrddau iechyd gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei fonitro a'i gynnal, beth mae dyletswydd ansawdd yn ei olygu mewn gwirionedd? Sut ydym ni'n mynd i'w fesur? Ac, os byddwch chi'n methu yn eich dyletswydd ansawdd, beth ydym ni'n mynd i'w wneud am y peth? Nid yw'r Bil yn sôn am hynny—mae'n ysgafn iawn ar hynny.
Ac nid dim ond fi sy'n meddwl hyn. Mae hyn ar draws nifer o wahanol fforymau, ac rwyf i ond eisiau sôn am ddau. Mae'r cyntaf gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sy'n dweud, heblaw bod rhyw fath o gosb neu gamau cywirol, bydd risg na fydd y ddyletswydd arfaethedig yn effeithiol, a gallai ddod yn ymarfer ticio bocsys yn unig. Ac, wrth gwrs, y Coleg Nyrsio Brenhinol—dyma'r timau proffesiynol sy'n sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gweithredu fel y mae. Mae'n rhaid bod canlyniad i wneud hynny neu i beidio a gwneud hynny, neu fel arall nid oes cymhelliad i wneud hynny ar y lefelau mwyaf sylfaenol.
Ac yna trown ni at y ddyletswydd didwylledd. Nawr mae hwn yn faes sy'n fy mhryderu'n fawr. Mae gen i amheuon cryf ynghylch pa mor effeithiol fydd y Bil hwn wrth gyflawni'r nod hwn, ac rwy'n glynu wrth y sylwadau a wnes i yng Nghyfnod 3—mai'r rheswm am hyn yw na fu unrhyw eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am fethiannau. Mae pasio'r baich wedi dod yn gwbl arferol, ac ni ddylai anwybodaeth fod yn amddiffyniad. I'r adran hon o'r Bil weithio'n effeithiol, mae angen i onestrwydd, bod yn agored a thryloywder fod yn bwyslais ac, yn wir, yn ganolbwynt i'r gwasanaeth iechyd cyfan a'r Llywodraeth, ac rwy'n dal i gredu, heb newid sylweddol yn y diwylliant sydd wedi dod i'r amlwg ar draws rhai o ddulliau rheoli y gwasanaeth iechyd, nid yw'n cael ei gyflawni o hyd.
Rwy'n deall na fyddai'r Bil hwn, ynddo'i hun, o reidrwydd wedi atal rhai o'r sgandalau a welsom ni mewn lleoedd fel Cwm Taf a Betsi Cadwaladr, ond, byddai, gyda mwy o rym, wedi ein galluogi i ymgeisio am GIG â diwylliant gonest ac agored—diwylliant lle, pan fo nyrs staff neu fydwraig yn gwneud adroddiad sy'n dweud bod diffygion difrifol mewn gwasanaethau mamolaeth, y byddai ef neu hi o'r farn bod ganddi neu ganddo'r grym i allu tynnu sylw at hynny, oherwydd dyna'r ddyletswydd didwylledd. Nid oes dim yn y Bil presennol sy'n dweud rhywbeth a fydd yn dweud gallwch chi wneud hynny. A dweud y gwir, yn hytrach mae'n dweud 'Byddwch yn onest os gwelwch yn dda' ac 'O, peidiwch â phoeni, os nad ydych chi wedi bod—. Does dim llawer yr ydym ni'n mynd i'w wneud am y peth'.
Ac yna yn olaf, rydw i am droi at y corff llais y dinesydd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wedi ysgogi calonnau a meddyliau'r cyhoedd a'r holl gynghorau iechyd cymuned lleol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned wedi dweud yn briodol, dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae'n debyg y bydd y niferoedd yn dangos y bydd y Bil hwn yn pasio ac y byddwn ni'n gweithio gyda'r Llywodraeth. Ac maen nhw'n hapus eich bod chi wedi cytuno i ymgysylltu ac ymgynghori. Ond fe ddywedaf i wrthych chi, os nad yw hyn yn rhyw fath o daflu llwch gwleidyddol i'r llygaid, mae'n rhaid i chi ymgysylltu â nhw yn onest, yn ddwfn ac yn ddidwyll a chael eu cefnogaeth wirioneddol. Oherwydd rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac rwy'n mynd i'w ddweud eto: rydym ni'n parhau i siarad am lais y dinesydd. Mae'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y bobl, mae'n ymwneud â'r bobl, caiff ei staffio gan y bobl a dyma galon ein gwlad ac mae'n rhaid i ni roi llais i'r bobl. Ac nid yw'r Bil hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn ymgorffori'r llais hwnnw. Ac rwyf—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
O, mae'n ddrwg gennyf—rwy'n ymddiheuro. Gwnaf, ond hoffwn i ddweud hyn: mae'r Bil, Dirprwy Lywydd, fel y mae ar hyn o bryd yn Fil hawliau ac nid atebion; mae'n Fil sy'n gobeithio am ansawdd a didwylledd, ond, yn fy marn i, nid yw'n dangos gwir arweiniad ar sut i'w gyflawni ac mae'n Fil lle y gellir colli llais y claf mor hawdd. Ac am yr union resymau hyn, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cefnogi'r Bil hwn.
Wrth gwrs, mae digwyddiadau ehangach yn maes iechyd wedi gosod y Bil hwn mewn rhyw fath o gyd-destun, ond rydym ni, fel plaid, wastad wedi bod yn amheus am y Bil yma am ein bod ni'n credu ei fod o'r ateb anghywir i'r broblem anghywir mewn difrif. Allwn ni ddim cefnogi diddymu rhai o'r lleisiau mwyaf effeithiol ar gyfer craffu ar fyrddau iechyd, er enghraifft—y cynghorau iechyd cymunedol—hyd yn oed os nad oes rhai ohonyn nhw cweit mor effeithiol â'r un sydd gennym ni yn y gogledd. Allwn ni ddim gweld sut mae bwrw ymlaen efo'r math yma o newid strwythurol yn mynd i fod werth yr ymdrech fydd yn mynd i mewn i hynny.
Ac ydych chi'n gwybod beth? Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Williams sawl blwyddyn yn ôl erbyn hyn, dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un wedi dyfalu mai'r cynghorau iechyd cymunedol byddai'r set gyntaf o sefydliadau i wynebu uno gorfodol, ac mae yna fwy nag awgrym o amheuaeth yma mai oherwydd eu heffeithlonrwydd nhw wrth graffu ar y byrddau iechyd, ac felly y Llywodraeth, maen nhw'n cael eu diddymu. Ac os caf i ddweud hyn: nid eisiau gwarchod y cynghorau iechyd cymuned am byth ydym ni, nid y cyrff hynny—nid eu gweld nhw fel rhywbeth sanctaidd ydym ni—ond swyddogaeth y cyrff hynny a'r hyn maen nhw'n ei wneud, eu hannibyniaeth nhw, ac mae pryder gennym ni ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r annibyniaeth yna a'u gallu nhw i wirioneddol fod yn llais dros y cymunedau maen nhw yn eu cynrychioli.
Ydych chi'n cytuno efo fi fod gwaith cyngor iechyd y gogledd yn esiampl glodwiw o pam bod angen y craffu yma i fod yn digwydd a pharhau i ddigwydd? A'r pryder ydy, drwy greu un corff cenedlaethol, na fydd y craffu lefel leol yna ddim yn gallu digwydd.
Dwi'n cyd-fynd â hynny'n llwyr, ac mae hynny wedi cael ei ddangos, onid ydy, yn y gwaith ymchwil rhagorol sydd wedi cael ei wneud o gwmpas y gwasanaethau fasgwlar ar hyn o bryd. Felly, mi ydym ni'n bryderus am golli'r swyddogaeth a'r cryfder yna sydd o fewn y cynghorau iechyd cymuned—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ar hyn o bryd. Wrth gwrs.
Diolch am hynny, Rhun. Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Ond nid mater o annibyniaeth yn unig yw hynny, nage? Mae hefyd yn gwestiwn o'u hystwythder, oherwydd maen nhw'n gallu mynd i'r sefydliadau iechyd hynny heb fawr o rybudd, bod yn ffrind ac yn llais diffuant i'r bobl sydd yno, ac ysbrydoli'r math yna o hyder. Felly, mae'n rhaid amddiffyn y gallu hwnnw i fynd ble bynnag y maen nhw eisiau hefyd, ar fyr rybudd.
A'u gwybodaeth leol fanwl hefyd, sy'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i'w nodi, ac fe wnaethom ni geisio cyflwyno gwelliannau i'r Bil a fyddai'n ceisio gorfodi elfen o weithio rhanbarthol er mwyn cadw'r arbenigedd lleol hwnnw. Yn anffodus, ni wnaeth y Llywodraeth gytuno gyda ni ar hynny.
Ond mae yna fwy na sefyllfa'r cynghorau iechyd cymuned sy'n bryder i ni. Mae hwn yn Fil sy'n honni ei fod yn rhoi ansawdd wrth galon gwneud penderfyniadau, ond sy'n methu â sôn yn benodol am ansawdd gweithlu, atal afiechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd, yr angen i sicrhau dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd—yn methu â gosod y safonau hynny yn glir ar wyneb y Bil. Ac er ein bod ni'n croesawu'r sicrwydd gan y Gweinidog fod y pethau yna ddim yn cael eu hanghofio, rydym ni yn teimlo bod methu â rhoi hynny ar wyneb y ddeddfwriaeth yn gam yn ôl. Mi oeddem ni i gyd yn derbyn yr angen i lefelau gweithlu gael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth pan wnaethom ni gefnogi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn y cynlluniau blaenorol er enghraifft, ac mae'r BMA a'r RCN ymhlith y cyrff sydd wedi pwysleisio pwysigrwydd hyn. Mae o'n rhywbeth y byddwn ni'n sicr yn dymuno dod yn ôl ato fo.
Yn troi at y ddyletswydd gonestrwydd—the duty of candour—yn syml, dydym ni ddim yn teimlo bod hyn yn ddigon cryf i fodloni dyheadau adroddiad Francis a'r holl adroddiadau eraill sydd wedi argymell hyn. Mae'n welliant ar y status quo—rydym ni'n cydnabod hynny—ond mi allai fod wedi mynd llawer pellach. Felly, mae'n rhaid i fi gwestiynu a fydd y Bil yma wir yn gwella'r NHS a'n gwasanaethau gofal ni. Dyna'r ffordd anghywir ymlaen i ni. Yr hyn y byddem ni wir wedi hoffi ei weld ydy darn o ddeddfwriaeth oedd â dyletswydd gonestrwydd yn llawer cryfach ynddo fo, wedi sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer rheolwyr—rhywbeth rydym ni wedi galw'n gyson amdano fo drwy'r trafodaethau—wedi ymgorffori cynllunio gweithlu mewn deddfwriaeth, ac wedi gwirioneddol warchod ac amddiffyn llais ein cleifion ni ymhob cwr o Gymru. Felly, am y rhesymau hynny, dydym ni am allu cefnogi'r Bil yma. Mae o'n gofyn i'n swyddogion ni ganolbwyntio ar weithredu'r math anghywir o newid, a hynny heb ddigon o fudd.
A gaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl? Jeremy Miles.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn amlwg o'n dadleuon—yn y pwyllgor ac yn y Cyfarfod Llawn—fod llawer iawn o ymdrech wedi'i wneud i ystyried sut y gellid gwella'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, ac, yn wir, mae wedi'i wella. Mae'r ddadl yng Nghyfnod 3, a'r cyfraniadau heddiw gan feinciau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, yn dangos nad ydym ni bob amser wedi gallu cytuno, a byddwn yn adleisio rhai o'r dadleuon a wnaeth y Gweinidog iechyd yn y ddadl yng Nghyfnod 3 wrth ymateb i rai o'r pwyntiau o sylwedd sydd wedi'u codi heddiw. Ond, er gwaethaf y ffaith nad oes cytundeb ar yr holl feysydd hynny, mae gennym ni bwrpas cyffredin, rwy'n credu, i gryfhau'r ddyletswydd ansawdd, y ddyletswydd didwylledd, y trefniadau llywodraethu a llais y cyhoedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y Bil yn cyflawni'r pethau hyn.
Os caiff y Bil ei basio heddiw, fel yr wyf yn annog yr Aelodau i'w wneud, rwyf eisiau eich sicrhau y bydd yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r Bil hwn a'r cyngor pwysig a gafwyd gan randdeiliaid hefyd yn cael ei ystyried pan symudwn ni i'r cam gweithredu. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r Bil.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, fe ohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.