3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 17 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:01, 17 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni hefyd wedi gofyn i bobl o bob rhan o'r boblogaeth ehangach i leihau cyswllt cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys gweithio o gartref os gallwch chi a pheidio â mynd o ddewis i ardaloedd gorlawn fel tafarndai neu fwytai. Dylai pawb sy'n 70 oed a hŷn, pobl o dan 70 â chyflyrau iechyd sylweddol a menywod beichiog fynd ati'n awr i ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Mae hynny oherwydd y caiff y grwpiau hyn eu dynodi fel rhai y mae mwy o berygl iddyn nhw fod yn ddifrifol wael ac felly mae angen iddyn nhw gyfyngu ar eu rhyngweithio cymdeithasol i leihau'r perygl o drosglwyddo. I'r rhai sydd o dan 70 sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, yr egwyddor greiddiol yw, os yw eich cyflwr iechyd yn rhoi'r hawl i chi gael pigiad ffliw'r GIG am ddim, yna mae'r cyngor hwnnw'n berthnasol i chi. Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd y GIG yn cysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o bobl agored i niwed gyda chyngor penodol iddyn nhw ynglŷn â'r peryglon y gallan nhw fod yn eu hwynebu. Mae hynny'n debygol o gynnwys mesurau mwy sylweddol fyth i'r rhai y mae eu systemau imiwnedd wedi eu peryglu'n sylweddol.

Mae'r safbwynt a fabwysiadwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ynglŷn â chynulliadau mawr o bobl i'w dilyn bellach ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ni fydd ein gwasanaethau brys yn mynychu nac yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr. Byddant hwythau hefyd, fel gweddill gwasanaethau'r GIG, yn canolbwyntio eu hamser ar ymdrin â'r ymateb i'r coronafeirws wrth iddo ddatblygu ymhellach.

Llywydd, fel y gŵyr yr Aelodau o adeg gynharach y prynhawn yma, cafwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati i brofi ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon o gynnydd y clefyd, mae ein pwyslais wedi newid o gynnal profion cymunedol, oherwydd dyna'r cyngor gorau sydd gennym ni. Profir bellach drwy ganolbwyntio ar bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac yn seiliedig ar symptomau a difrifoldeb. Mae tystiolaeth gref o bob cwr o'r byd y gallan nhw ac y byddan nhw yn gwella. Mae a wnelo hyn â sicrhau ein bod ni'n defnyddio ein gallu i brofi drwy ganolbwyntio ar y mannau lle mae'r angen mwyaf. Yn ogystal â'r rhai sydd mewn ysbytai, bydd profion ar gael nawr i bobl sy'n gweithio yn swyddogaethau clinigol allweddol y GIG er mwyn sicrhau na chânt eu tynnu o'r gweithle yn hirach nag sy'n angenrheidiol. Bydd nifer y swyddogaethau hyn fydd yn gymwys yn ymestyn wrth i'n gallu i brofi ddatblygu. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau â'i waith arolygu i ddeall y darlun cyffredinol yng Nghymru.  

Llywydd, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd ein cyd-Aelod, Vaughan Gething, fesurau pellgyrhaeddol dros dro i ryddhau gallu'r GIG i ymdrin â'r achosion. Bydd darparwyr iechyd a  gwasanaethau cymdeithasol yn atal apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys ac fe gaiff y drefn fonitro a rheoleiddio ei llacio ar draws y system iechyd a gofal.

Gwyddom y bydd yr haint hwn yn cynyddu'n sylweddol y galwadau a wneir ar ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr gofal sylfaenol, ac yn benodol, ar y staff yn y sefydliadau hyn. Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn caniatáu i'n system iechyd a gofal cymdeithasol gadw pobl o'r ysbyty os nad oes angen iddyn nhw fod yno, ac mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen bod pobl sydd â'r angen mwyaf am ofal ysbyty yn cael eu trin yn ddi-oed. Bydd penderfyniadau dydd Gwener yn caniatáu i fyrddau iechyd ac eraill wneud y defnydd gorau o'r gallu sydd ar gael mewn meysydd blaenoriaethol, i adleoli ac ailhyfforddi staff ar gyfer swyddogaethau gwahanol er mwyn ymateb i effaith y coronafeirws a chynnal gwasanaethau ar gyfer triniaethau hanfodol eraill, fel gwasanaethau canser.

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo'r gyfres nesaf o gamau gweithredu cenedlaethol i gefnogi'r maes iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn barod ar gyfer yr hyn sydd ar y gorwel. Mae'r rhain yn cynnwys: darparu canllawiau ynglŷn â phrofi gweithwyr gofal iechyd symptomatig mewn lleoliadau ynysig; mwy o frys o ran cyflwyno ymgynghoriadau fideo mewn gofal sylfaenol; cyhoeddi canllawiau arfaethedig ynglŷn â darparu gwasanaethau deintyddol fel nad oes rhaid i gleifion a staff ymwneud â'i gilydd yn ddiangen; a gwaith pellach ar fyrder i gynyddu gwelyau, staffio ac offer gofal critigol.

Llywydd, ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, mae fy nghyd-Weinidogion yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i sicrhau eu bod yn barod. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac maen nhw wedi parhau i'r wythnos hon. Caiff ein hawdurdodau lleol yr holl gymorth a'r gefnogaeth y gallwn ni eu darparu i gadw gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i barhau. Mae ganddynt hwythau hefyd swyddogaeth arweiniol hynod bwysig, ac mae hynny'n arbennig o arwyddocaol o ran y ffordd y byddan nhw'n gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i gydgysylltu cefnogaeth i'r nifer fawr o bobl a fydd yn ynysu eu hunain nawr.

Mae hon yn sefyllfa ddynamig sy'n datblygu'n gyflym, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ymhellach fel y bo angen ac yn unol â thystiolaeth. Mae'r Gweinidog iechyd yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â pha benderfyniadau a wnaed—y dystiolaeth—cyn cyfarfod y pwyllgor iechyd ar 18 Mawrth, a gwn ei fod yn dal i obeithio gallu ateb cwestiynau'r Aelodau gyda'r prif swyddog meddygol gerbron y pwyllgor hwnnw.

Yn y cyfamser, mae angen i ni barhau i'n hatgoffa ein hunain a'n holl gyd-ddinasyddion o'r pethau syml hynny y gallwn ni i gyd eu gwneud ac y byddan nhw, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth; y camau syml hynny i helpu i reoli a chyfyngu ar effaith y feirws. Bydd parhau i olchi dwylo yn rheolaidd a hunan-ynysu pan fo angen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol, yn ogystal â helpu'r teulu, ffrindiau a chymdogion pan fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.

Llywydd, rydym ni'n gofyn i bobl wneud dewisiadau eithriadol fel sy'n gweddu i'r cyfnodau anghyffredin yr ydym yn eu hwynebu. Rydym yn gofyn i bobl wneud hyn, i helpu eu ffrindiau a'u teuluoedd; gofynnwn i bobl wneud hyn i helpu ffrindiau a theuluoedd na fydden nhw yn eu cyfarfod fel arall o bosib. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd, minnau a'm cyd-Weinidogion, Llywydd, yn parhau i hysbysu Aelodau a phobl Cymru yn llawn ac yn rheolaidd, wrth i'r clefyd barhau i fynd ar led.