Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 17 Mawrth 2020.
Prif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, ac fe hoffwn innau hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r ddau deulu sydd wedi colli pobl yn y dyddiau diweddar hyn. Ac rwyf hefyd yn credu, bob tro y byddaf i'n codi, y byddaf yn dweud diolch yn fawr iawn wrth y gwasanaethau iechyd—allwn ni ddim dweud hynny ddigon wrth y staff rheng flaen a'r staff gofal cymdeithasol, ond hefyd diolch i'r arwyr di-glod yn y cefndir—yr ymchwilwyr sy'n ceisio canfod iachâd o'r COVID-19 ofnadwy hwn, ac i bawb sy'n cefnogi'r holl bobl hyn yn yr ymdrech hon.