Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Yn dilyn eich cynhadledd i'r wasg gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma, adroddwyd y dywedodd yntau y gellid cwtogi ar gasgliadau biniau a gwasanaethau eraill y cyngor yn ystod yr argyfwng ac fe'ch dyfynnwyd yn dweud na fyddai cwtogi yn syth ond bod yn hynny dan ystyriaeth ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Tybed a allech chi ymhelaethu ychydig ar hynny a rhoi rhyw awgrym o amserlen inni, er gwaethaf y ffaith nad oes gan yr un ohonom ni belen grisial i wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a sut y byddwch chi'n ystyried, o bosib, er enghraifft, unrhyw risgiau iechyd a allai fod yn berthnasol i sbwriel heb ei gasglu a allai fod wedi dod o aelwyd sydd ag aelodau wedi'u heintio yn byw ynddo.
Fel llawer o bobl, mae pobl anhygoel wedi dod ataf yn gwirfoddoli i helpu. Mae gen i un achos y fan yma o wraig 63 oed yn Nhreffynnon. Hoffai hi gynnig ei chefnogaeth mewn unrhyw fodd sydd ei angen. Os yw'r rhai dros 70 oed yn mynd i gael eu hynysu, mae hi eisiau gwneud beth bynnag y gall i helpu yn y rheng flaen—glanhau lloriau mewn ysbytai, neu beth bynnag. Mae hi'n cynnig ei gwasanaethau, ac rydym ni'n gwybod, bob un ohonom ni, bod byddin o bobl anhygoel allan yn y fan yna yn cynnig cymorth tebyg. Rwy'n gwybod bod Swyddfa Cymru ddoe wedi dweud eu bod yn darparu mwy o wybodaeth yn ganolog am wirfoddoli erbyn heddiw fel y gallan nhw gyfeirio darpar wirfoddolwyr at y mannau lle mae eu hangen. A ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny ac, os ydych chi ai peidio, pa mor ddatblygedig yw'r sefyllfa nawr gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid o ran galluogi gwirfoddolwyr lleol i gyfrannu trwy gynlluniau dilys sydd wedi'u gwirio'n gywir?
Yn eich ymateb i'r materion a godwyd gydag awdurdodau lleol yn eich uwchgynhadledd gyda llywodraeth leol ar y deuddegfed o'r mis—ni af drwy'r holl faterion, oherwydd fel y gwyddoch chi, mae llawer ohonyn nhw, ond mae ambell un ohonyn nhw—o ran yr angen i hysbysu cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ac arweinwyr awdurdodau lleol am unrhyw achosion, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn cydgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y mater hwn. Tybed a allwch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar hynny. O ran cyflwyno trefniadau staff hyblyg, fe wnaethoch chi gyfeirio at gydberthnasau sefydledig drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ac yn rhan o'r cyngor partneriaeth cymdeithasol cysgodol newydd. Bydd hyn yn galluogi partneriaid cymdeithasol o bob rhan o Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus ac undebau llafur i ddatblygu trafodaethau cyflym ac effeithiol ar faterion gweithlu strategol sy'n gysylltiedig â COVID-19. Ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd, yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, eich bod yn gweithredu rhwydwaith rhithwir, gan ategu strwythurau partneriaeth cymdeithasol allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Felly, y cwestiwn yw: ble ydych chi wedi cyrraedd o ran ysgogi'r rhwydwaith rhithwir hwnnw? A yw hynny ar waith, neu pryd y gallwn ni ragweld y bydd hynny'n digwydd?
O ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, i sicrhau bod ymgeiswyr, p'un a ydyn nhw yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr, yn briodol ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn arbennig, fe wnaethoch chi ddweud eich bod ar hyn o bryd yn ystyried beth y gellir ei wneud i sicrhau dull cyson o fynd ati heb beryglu diogelwch pobl, er mwyn sicrhau ein bod yn cael staff wedi'u clirio ac a fydd yna lacio dros dro ai peidio. Unwaith eto, tybed a wnewch chi gadarnhau a oes unrhyw ddatblygiadau wedi bod yn y pum niwrnod ers hynny i hwyluso ateb yn y maes hwnnw.
Un neu ddau arall o'ch papur: roedd pryderon ynghylch cydnerthedd timau iechyd yr amgylchedd i reoli disgwyliadau bob awr o'r dydd a'r nos. A oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymryd yr un pwerau â Gweinidogion yn Lloegr i gyfyngu ar symudiadau unigol, yn hytrach na dibynnu ar Orchmynion Rhan 2A? Rydych chi'n dweud bod Gorchmynion Rhan 2A ond yn berthnasol yn Lloegr, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gyflym i gyflwyno rheoliadau cyfatebol yng Nghymru. Unwaith eto, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni lle'r ydych chi arni gyda hynny. Efallai fy mod wedi colli rhywbeth a'ch bod eisoes wedi cyhoeddi'r rheoliadau hyn—os nad ydych chi, beth yw'r sefyllfa?
Fe wnaethoch chi ddweud, o ran cofrestru marwolaethau, fod pryderon ynglŷn â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau cofrestryddion. A oes unrhyw fesurau arbennig ar y gweill i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y marwolaethau? Rwy'n gwybod, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, fod trefnwyr angladdau yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau a chyrff eraill ar gynllunio brys.
Fe wnaethoch chi ddweud bod cyfarfod o'r grŵp cynllunio ar gyfer marwolaethau torfol yng Nghymru wedi'i amserlennu ar gyfer yr wythnos hon, lle y bydd fforymau cydnerthedd lleol ac arweinwyr grwpiau marwolaethau torfol yn trafod y goblygiadau ar bob agwedd ar y broses rheoli marwolaeth, gan gynnwys cofrestru marwolaethau. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal, neu, os nad ydyw, a fydd yn digwydd o hyd? Pa drefniadau, heb fynd i ormod o fanylder, sy'n cael eu rhoi ar waith?
Fy nghwestiwn olaf un: canllawiau ar ymdrin ag unrhyw faterion neu achosion mewn porthladdoedd megis Caergybi a Phenfro, yr holodd yr awdurdodau lleol yn eu cylch. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llu'r Ffiniau egluro a fyddan nhw'n datblygu canllawiau mwy cynhwysfawr ar gyfer y sector morol ledled y DU, fel y nodwyd eisoes ganddyn nhw. Felly, fy nghwestiwn olaf yw, ac, unwaith eto, mae ychydig o ddyddiau wedi mynd heibio, felly, yn ôl pob tebyg, rydych chi wedi gofyn iddyn nhw erbyn hyn: pa ymateb a gawsoch chi? Diolch.