Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 17 Mawrth 2020.
Oes, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad gwych. Nid yw'n un yr oeddwn wedi'i ystyried, felly rwy'n falch iawn bod y syniad wedi'i godi. Byddwn yn sicr yn ystyried hynny. Mae hynny'n gwbl hanfodol, onid yw e', os ydych chi'n byw gydag aelod o'r teulu sydd â hynny a'ch bod yn gallu cael eich gwahanu oddi wrtho, yna mae hynny'n amlwg yn syniad gwych? Gwyddom fod gwestai ledled Cymru â chyfraddau llenwi isel iawn, er enghraifft, o ganlyniad i'r feirws, felly mae'n sicr yn werth ei ystyried, ac fe wnawn ni wneud hynny, a byddwn yn adrodd yn ôl ar hynny ar unwaith.