5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 17 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:52, 17 Mawrth 2020

Gwnaf i ddim cymryd llawer o amser. Syniad sydd gen i sydd wedi cael ei basio i fi yng nghyd-destun yr angen acíwt a allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer cartrefi dros dro ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol eraill. Mae'n codi o senario lle mae yna ddyn sydd yn hŷn ac yn gorfod hunan-ynysu ar hyn o bryd. Mae ei fab o yn heddwas sydd yn weithiwr allweddol ddim eisiau ynysu ei hun, ond does ganddo fo nunlle i fynd i fyw. Felly, mi fyddem ni o bosibl yn gallu cael budd o ddod o hyd i leoedd i'r gweithwyr allweddol yma ymgartrefu dros dro.

A oes yna fudd ydych chi'n meddwl yn y Llywodraeth yn edrych ar y posibilrwydd o estyn allan at bobl sydd â thai gwag, ail gartrefi, Airbnbs ac yn y blaen, i weld a oes modd gallu defnyddio yr eiddo gwag hynny yn ystod y cyfnod yma er mwyn cartrefu gweithwyr allweddol?