Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:30, 18 Mawrth 2020

Diolch yn fawr am hynna. Ac, wrth gwrs, yn dilyn o hynny, ie, dŷn ni mewn sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa argyfyngus yma yn beryg o bara am rai wythnosau, os nad misoedd. Ac, wrth gwrs, fel y cyfeiriodd Darren Millar, mae gyda ni bobl o Gymru sydd mewn gwahanol wledydd ar draws y byd rŵan yn dilyn eu gwahanol fusnesau, hyd yn oed yn cynrychioli'r wlad yma. Felly, a allaf ofyn i chi pa drafodaethau ydych chi'n eu cael fel Gweinidog, ac fel adran, ynglŷn â chefnogi'r bobl yma, yn ychwanegol i'r gefnogaeth arferol felly, achos, wrth gwrs, byddan nhw'n teimlo'n ynysig nawr achos mae cyfyngiadau ar deithiau rhyngwladol ac ati? Felly, sut ydych chi'n cynnal—? Ar ben y gwaith sy'n mynd ymlaen yn arferol, ond mewn sefyllfa o argyfwng rŵan, pan fo'r cysylltiadau arferol wedi mynd, pa waith cynnal ychwanegol sydd gyda chi yn edrych ar ôl pobl o Gymru sydd allan o Gymru ar hyn o bryd?