Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 18 Mawrth 2020.
Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw i sicrhau bod y bobl yna sydd yn gweithio drostyn ni dramor, eu bod nhw ddim yn mynd mewn i gysylltiad gyda gormod o bobl. Mae lot o weithgareddau oedd ar y gweill wedi cael eu canslo; lot o export missions, mae'r rheini i gyd, wrth gwrs, wedi'u canslo; pobl oedd i fod i ddod mewn i Gymru, y rheini hefyd wedi'u canslo. Ac, felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau eu bod nhw yn cadw'n saff. Wrth gwrs, maen nhw yn gyffredinol yn cydweithredu gyda'r tîm Prydeinig sydd yna. Felly, dŷn nhw ddim yn gweithredu fel unigolion fel y cyfryw, felly maen nhw yn dilyn y cyfarwyddyd, nid yn unig sy'n dod gennym ni, ond y cyfarwyddyd sy'n dod gan Lywodraeth Prydain. Ond dwi yn meddwl—. Dwi'n cael cyfarfod y prynhawn yma gyda'r person sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac edrych ar sut rŷn ni'n gweithredu dramor.