Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:33, 18 Mawrth 2020

Wel, rŷn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r sector gelfyddydol, ac, wrth gwrs, y sector sy'n gyfrifol am major events. Ac mae lot fawr o arian yn dod mewn i'r wlad oherwydd major events. Wrth gwrs, dwi wedi bod yn cael trafodaethau eithaf manwl gyda chynrychiolwyr yr Urdd dros y penwythnos, ond mae pob math o weithgareddau eraill a mudiadau eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw. Yn sicr, rŷn ni wedi gweld bod y Big Retreat wedi cael ei ganslo, bod y Machynlleth Comedy Festival wedi'i ganslo, Tafwyl hefyd, ac mae bwrdd Llangollen yn cwrdd heno. Felly, mae yna lot fawr o fudiadau sydd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac felly, rŷn ni mewn trafodaethau gyda nhw i weld os oes rhywbeth gallwn ni ei wneud, ond, wrth gwrs, mae hi'n amser argyfyngus i bawb, a beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweld beth yw'n blaenoriaethau ni, wrth gwrs.