Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Mawrth 2020.
Diolch am hynna, Weinidog. Ac, wrth gwrs, dŷn ni wedi clywed cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys yn Llundain yr wythnos yma ynglŷn â'r arian ychwanegol sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, yn amlwg, mae yna effaith enfawr yn mynd i fod o achos yr holl gyfyngu ar gysylltiadau, yr holl gyfyngu ar gyfarfodydd, cyfyngu ar deithio, yn ogystal â chyfyngu ar deithio rhyngwladol—yr holl effaith enbydus yna ar fywyd celfyddydol Cymru yn benodol. Dŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i'r Urdd, a chanslo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tan y flwyddyn nesaf, a chau'r gwersylloedd, ac ati. Felly, yn nhermau ariannol rŵan, achos, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni siarad am bethau fel yna hefyd, yn sgil cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael i drefnu mesurau lliniarol gogyfer y sector gelfyddydol yma yng Nghymru?