Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Mawrth 2020.
Nid oes gennym yr union ffigurau o ran nifer y bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn arwain ar hynny, ond yn amlwg, rydym yn annog pobl i ddod adref ar unwaith os yw'n bosibl iddynt wneud hynny. Dyna'r cyngor a gafwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.