Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 18 Mawrth 2020.
Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i rai o'r bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd, ac yn arbennig i'w teuluoedd a fydd yn poeni'n fawr am eu lles. Felly, a gaf fi eich annog i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi'r unigolion hynny a allai fod angen cymorth i gyrraedd adref?
Un o'r grwpiau eraill o bobl y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt yw gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd dramor ar hyn o bryd—a llawer ohonynt mewn gwledydd sydd wedi teimlo effeithiau cryfaf problem COVID-19. Tybed a allech ddarparu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r gweithwyr hynny, pa ymgysylltiad a gawsoch â'u teuluoedd, ac a oes trefniadau iddynt gael eu dychwelyd i Gymru yn y dyfodol agos?